Mae'r Tîm Llyfrgell MyUni yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer holl ymholiadau'r llyfrgell. Rydym yn dîm cyfeillgar a chynhwysol sy'n ymroddedig i ddeall anghenion holl ddefnyddwyr y llyfrgell. Cynigir ein gwasanaethau i gyd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Rydym yn gofalu am eich profiad wrth ddefnyddio gwasanaethau'r llyfrgell ac yn anelu i wella ein cyfleusterau a darpariaeth ein gwasanaethau yn gyson. Croesawir a gwerthfawrogir eich adborth.