Gwasanaethau Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe

Rwyf yn fyfyriwr sydd ag anabledd print ac am wybod pa fformatau hygyrch ar gyfer adnoddau dysgu y gall y Ganolfan Drawsgrifio ddarparu.

Rydym yn darparu trawsgrifiadau o lawlyfrau modiwl, cyflwyniadau PowerPoint, taflenni, erthyglau cyfnodolion, detholiadau a llyfrau cyfan mewn fformatiau electronig, print bras, braille a ffeiliau PDF hygyrch. Gallwn hefyd gynhyrchu diagramau cyffyrddol.

Rydym yn cysylltu â RNIB Bookshare a chyhoeddwyr ar ran myfyrwyr i dderbyn ffeiliau PDF o lyfrau. Gellir trosi'r ffeiliau ymhellach i gopïau MS Word neu brint bras.

Pan fo llwyth gwaith yn caniatáu, mae'r Ganolfan yn darparu trawsgrifiadau print o recordiadau sain e.e. cyfweliadau a recordiwyd a phodlediadau sain i fyfyrwyr sydd â nam ar eu clyw.

Gallwn eich cefnogi os ydych wedi eich cyfeirio atom ni gan y Gwasanaeth Anableddau.

Datganiad Cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw cefnogi a galluogi myfyrwyr ag anabledd darllen print i wneud y gorau o'u potensial academaidd drwy gael gwared ar rwystrau a darparu adnoddau hygyrch.