Bwriedir y tudalennau hyn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac felly nid ydynt wedi cael eu cyfieithu.

Am wybodaeth sy'n berthnasol i fyfyrwyr o'r DU/UE, gweler yma

Costau Ychwanegol

Ar ben y ffioedd dysgu a'ch costau byw, mae'n bosib y bydd angen talu costau gorfodol neu ddewisol ychwanegol ar gyfer rhai rhaglenni er mwyn i chi gyfranogi'n llawn a chwblhau'r rhaglen. Bydd angen i chi neilltuo arian ar gyfer y costau hyn ar wahân, gan nad ydynt wedi'u cynnwys yn y ffioedd dysgu a godir arnoch. Gall y fath gostau gynnwys teithiau maes, costau teithio ar gyfer lleoliadau gwaith neu leoliadau astudio, costau offer neu labordy, a gwiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol sy'n benodol i'ch rhaglen.

Ceir gwybodaeth am gostau ychwanegol ar gyfer eich rhaglen ar dudalennau unigol cyrsiau israddedigcyrsiau a addysgir a rhaglenni ymchwil.

Polisi Ad-dalu

Os ydych yn Tynnu'n Ôl o'ch rhaglen yn gynnar (neu'n gohirio eich astudiaethau), efallai y byddwch yn gymwys am ad-daliad.

Gweler ein Polisi Ad-daliadau.