Trawsgrifiad: Hackwood Fabricated Solutions

AmserSain

Fideo

00:00:00

Mae ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch) yn bartneriaeth rhwng sawl prifysgol sef pum Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, a ariannir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Lluniwyd ASTUTE 2020 i sbarduno twf yn y sector gweithgynhyrchu ledled Cymru, trwy gymhwyso technolegau peirianneg uwch i heriau gweithgynhyrchu, a sbarduno ymchwil, datblygu ac arloesedd blaengar.

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy Uwch).

Lluniau drôn o Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.

Logos Sefydliadau Partner Addysg Uwch ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Siotiau o’r tu allan i Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd a’r Ysgol Peirianneg.

Adeilad Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd yn arwain at Swyddog Prosiect ASTUTE 2020 yn edrych ar sgrîn cyfrifiadur gydag efelychiadau modelu cyfrifiadurol.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn edrych i mewn i feicrosgop a robot diwydiannol Kuka yn symud o gwmpas mewn dilyniant.

00:00:31

Helô, fi yw Mike Hackwood o Hackwood Fabrications Solutions.

Cwmni o Gasnewydd ydyn ni, sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad yn gwneud cynnyrch dur a phlastig.

Rydyn ni’n cyflenwi gwneuthuriadau unigryw i’r diwydiant adeiladu a’r sector preifat ac yn gweithgynhyrchu gan ddefnyddio ystod eang o ddeunyddiau sy’n addas i anghenion ein cleient.

Cafwyd y syniad o greu siambrau HDPE (Poly Ethylen Dwysedd Uchel) rai blynyddoedd yn ôl, ond yn amlwg, oherwydd COVID, rydyn ni wedi bod yn dal i ddisgwyl am ddwy flynedd. Rydyn ni wedi gweld gostyngiad aruthrol o ran trosiant yn y ddwy flynedd hynny, a bellach galla i ddweud yn bendant ein bod wedi troi cornel. 

Cerddoriaeth offerynnol yn y cefndir.

Logo Hackwood Fabrication Solutions (HFS) yn cael ei ddangos ar y sgrîn.

Siot ongl lydan o gyfleuster Gweithgynhyrchu HFS, yn cynnwys logos ac arwyddion.

Mike yn sefyll y tu allan ar safle adeiladu allanol ar gyfer darn i’r camera. Baner ASTUTE 2020 a thryc ddadlwytho yn dwyn brand Priory yn y cefndir.

Cyfleuster Gweithgynhyrchu HFS, yn cynnwys logos ac 

arwyddion. Lluniau o’r tu mewn i’r cyfleuster gweithgynhyrchu (offer, feisiau, siambr ddur).

Dau aelod o staff HFS yn gweithio, gan gynnwys siot agos o aelod o staff yn weldio.

Mike yn sefyll y tu allan ar safle adeiladu allanol ar gyfer darn i’r camera. Baner ASTUTE 2020 yn y cefndir. 
00:01:08

Roedd ein cwsmeriaid yn gofyn i ni ystyried lleihau ein hôl troed amgylcheddol a’u helpu nhw gyda dyluniadau ar gyfer gwahanol gynnyrch. Roedd gennym ni syniad da o ran beth roedd angen i ni gyflawni, ond roedden ni’n ansicr sut i wneud hynny, a dangos i’n cwsmeriaid ei fod yn bodloni’r safonau disgwyliedig.

Mae ein strwythur cefnogi newydd yn sgwâr ac yn hirsgwâr ac yn meddu ar nodweddion ychwanegol fel mynediad i dyllau archwilio a phibellau archwilio. Felly nid yw cyfrifiadau strwythurol confensiynol yn addas.
Roedd angen i ni gael hyd i ddull cyfrifo oedd yn addas ar gyfer manylebau ein cynnyrch.

Lluniau o’r tu mewn i gyfleuster gweithgynhyrchu HFS. Aelodau staff HFS yn symud ffrâm ddur ac yna’n weldio’r ffrâm.

Logo Hackwood.

Siot sgrîn lydan o dirlun heulog awyr agored o’r safle adeiladu allanol.

Fan yn dwyn brand HFS yn cael ei phacio ar y safle adeiladu allanol.

Lluniau o siambr HDPE plastig yn y ddaear.

Siot dros ysgwydd Mike, yn ei ddangos yn cerdded i lawr i’r siambr HDPE ar y safle adeiladu.  

Mike yn gwisgo gwasgod fflwroleuol gyda logo HFS ar ei gefn.

Siot o’r tu mewn i’r siambr HDPE, gyda rhannau dur arbennig yn cael eu gosod yng ngwaelod y siambr er mwyn dal y cyfarpar profi yn ei le.

00:01:38

Er mwyn cael hyd i ffordd o ddefnyddio polymerau wedi’u hailgylchu yn ein cynnyrch newydd, roedd rhaid i ni sicrhau bod polymerau anfersiynol yn briodol, deall y potensial i ddeunyddiau ddiraddio, a chanfod y ffordd orau o brosesu’r deunydd a ailgylchwyd. 

Mae gan dîm Hackwood ddealltwriaeth ardderchog o’n hanghenion, a bydden ni’n trosglwyddo hynny i dîm ASTUTE. O gyfuno hynny â’r cyfuniad o’n profiad a’n gwybodaeth, bydden ni’n gallu cyflawni dadansoddiad cynhwysfawr ac effeithlon o’r strwythurau HDPE. 

Mike yn siarad â chontractwr Priory a rheolwr technegol ASTUTE 2020, gyda pheiriant cloddio yn y cefndir ac ysgol yn y siambr HDPE.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn y Siambr HDPE gyda chyfarpar profi (4 troswr llinol yn mesur dadleoli) yn cael eu dal yn eu lle gan glampiau magnetig. 

Mike a swyddogion prosiect ASTUTE 2020 yn edrych yn y siambr HDPE.

Siot agos o Mike yn gwneud darn i’r camera.

Cefn Mike yn dangos logo HFS ar wasgodau fflwroleuol, yn siarad â rheolwr technegol ASTUTE 2020.

Contractwyr Priory gyda logos ar wasgodau fflwroleuol.

Delweddau ar ffurf Efelychiadau Cyfrifiadurol o’r siambr HDPE, yn dangos y straen, yr ansawdd a’r dadleoli statig.  

00:02:05

Roedd angen i ni brofi dilysrwydd canlyniadau’r efelychiad trwy osod a phrofi’r strwythur tanddaear, a dyna rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar y safle heddiw.

Oherwydd cymhwysiad ysgafn y siambrau HDPE, mae llai o gost, nid yn unig wrth gludo, ond hefyd o ran amser gosod ar y safle. Mae hyn yn arbed costau yn gyffredinol ar gyfer y cleient, ac eto, gan fod modd ailgylchu’r deunydd, gellir ei ailgylchu ar ôl ei ddefnyddio. 

Lluniau o set o sbaneri

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn gosod y cyfarpar profi (4 troswr llinol) yn ei le yn y siambr HDPE.

Y rhannau dur a osodwyd yng ngwaelod y siambr gyda 

swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn gosod y cyfarpar.

Peiriant cloddio yn ôl-lenwi’r siambr HDPE yn y ddaear ac yna’n codi’r rhan uchaf dur a’i rhoi ar ben y siambr.  
00:02:32

Mae cydweithio rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn ffordd eithriadol bwerus o oresgyn problemau peirianneg sydd y tu allan i ystod gallu cwmni fel ni.

Mike a Swyddogion prosiect ASTUTE 2020 yn symud cyfarpar cyfrifiadurol i’w le.

Contractwyr Priory yn datgysylltu cadwyni o’r rhan uchaf dur.

Swyddogion prosiect ASTUTE 2020 yn adolygu’r cyfarpar cyfrifiadurol yn barod ar gyfer y profi.
00:02:42

Mae ein prosiect gydag ASTUTE East yn tystio i hyn, gan ein bod wedi cyflawni gyda’n gilydd rywbeth na fydden ni wedi gallu ei wneud ar ein pen ein hunain.  

Roedd eu gwybodaeth a’r sgiliau peirianneg y buon nhw’n eu defnyddio o gymorth mawr i ni, a chafodd ein galluoedd Ymchwil a Datblygu (R&D) eu gyrru ymhell heibio’r fan lle roedden ni cyn cydweithio. Gobeithio bydd hynny nawr yn cyfnerthu’r busnes i’r dyfodol, oherwydd os bydd y cynnyrch hwn yn awr yn mynd o nerth i nerth, bydd yn creu dyfodol da i HFS a’r cyflogeion, a’r gobaith yw y bydd yn tyfu’r busnes â phobl newydd. 

Bwced peiriant cloddio yn rhoi pwysau ar ben rhan uchaf dur y siambr HDPE. Yna mae’r peiriant cloddio yn gyrru ar ben y siambr HDPE.

Mike a swyddogion prosiect ASTUTE 2020 yn adolygu canlyniadau’r profion ar sgrîn cyfrifiadur.

Swyddog prosiect ASTUTE 2020 yn tynnu lluniau o’r siambr HDPE gyda Mike yn y cefndir.

Siot o’r siambr HDPE yn y ddaear, gyda’r holl gyfarpar profi (4 troswr llinell) wedi’i osod yn ei le. 

Siot o Mike yn edrych i’r pellter ar y siambr HDPE yn y ddaear.

Mike yn sefyll y tu allan ar safle adeiladu allanol ar gyfer darn i’r camera. Baner ASTUTE 2020 a thryc dadlwytho yn dwyn brand Priory yn y cefndir.

Logo HFS ar fan.

Siot agos o Mike yn gwneud darn i’r camera.

  Cerddoriaeth offerynnol

Logos partneriaid ASTUTE 2020 – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Logo ASTUTE 2020 a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Dolen i wefan ASTUTE 2020.