Cymuned ymchwil ryngddisgyblaethol a fydd yn hybu gwybodaeth ac arloesi mewn ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu, gan gefnogi twf gwyrddach ac economi sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon.

Byddwn yn arloesi darganfod deunyddiau newydd a thechnolegau prosesu glanach, gan hwyluso cynhyrchion a phrosesau gwell a dealltwriaeth newydd o'u heffaith ar gymdeithas.

Bydd y sefydliad yn mynd i'r afael â'r Heriau Mawr:

  • Cymdeithas sy'n Heneiddio
  • Deallusrwydd Artiffisial a Data
  • Twf Glân
  • Dyfodol Symudedd

Byddwn yn meithrin cydweithrediadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, mewn partneriaeth â'r byd academaidd, byd diwydiant a sefydliadau llywodraethol.

Gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o'r Brifysgol, bydd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn aelodau craidd o'n cymuned gynhwysol a byddwn yn creu rhaglenni mentora/hyfforddiant ac yn rhoi cynlluniau cymorth ar waith fel y gallwn dyfu gyda'n gilydd.

Microscopic material image