Professor Cinzia Giannetti

Yr Athro Cinzia Giannetti

Athro, Mechanical Engineering

Cyfeiriad ebost

305
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Dr Cinzia Gianetti yn Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Fecanyddol. Mae ymchwil Cinzia wedi'i llywio gan frwdfrydedd dros ddatblygu technolegau a dulliau arloesol a all greu effaith drawsnewidiol ar ein bywydau, y gymdeithas a'r economi. Mae hi wedi bod yn aelod gweithgar o'r gymuned ymchwil Gweithgynhyrchu Digidol ac yn eiriolydd ers 2010, pan symudodd o fyd diwydiant i'r byd academaidd.

Cenhadaeth Cinzia yw cefnogi twf sector gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig drwy ddatblygu systemau cynhyrchu annibynnol, cydweithredol a deallus drwy ddefnyddio technolegau digidol uwch sy'n ddwys o ran gwybodaeth. Mae Cinzia wedi derbyn Cymrodoriaeth Gweithgynhyrchu Digidol yr EPSRC UKRI (EP/S001387/1 2018-2021) ac mae hi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil 'Materials Made Smarter' (EP/V061798/1), lle mae hi'n arwain mentrau digitaleiddio, gan arloesi gwaith datblygu ac integreiddio deallusrwydd artiffisial mewn diwydiannau gweithgynhyrchu. Mae Cinzia yn gyd-Ymchwilydd ac yn aelod o'r tîm arweinyddiaeth amlddisgyblaethol yng Nghanolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC mewn "Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau Dynol â Data a Systemau wedi'u llywio gan Ddeallusrwydd", sy'n hyfforddi ac yn meithrin arweinwyr y dyfodol mewn arloesiadau wedi'u llywio gan ddata.

Mae gan Cinzia brofiad helaeth o gyflawni arloesi ac effaith drwy brosiectau ymchwil a datblygu diwydiannol cymhwysol, profiad a enillwyd o fyd diwydiant a'r byd academaidd. Bu ganddi swyddi mewn rolau peiriannu uwch i gwmnïau byd-eang (Siemens/Motorola/NextGen) ac mae ganddi hanes llwyddiannus wrth gyflawni prosiectau Innovate UK.

Meysydd Arbenigedd

  • Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu
  • Data Mawr
  • Gwybodeg Gweithgynhyrchu ac IoTs
  • Dysgu Peirianyddol/Dysgu Dwfn
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Optimeiddio Prosesau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae ymchwil Dr Giannetti yn cyd-fynd yn agos â'r thema ymchwil Gweithgynhyrchu'r Dyfodol a maes blaenoriaeth yr EPSRC 'Gweithgynhyrchu Digidol'. Nod ei hymchwil yw cefnogi twf sector gweithgynhyrchu'r Deyrnas Unedig drwy ddatblygu dulliau deallusrwydd artiffisial i wella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd prosesau gweithgynhyrchu.

Mae Dr Giannetti wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu ymagweddau newydd wedi'u llywio gan ddata at leihau aneffeithlonrwydd presennol mewn prosesau gweithgynhyrchu sy'n effeithio ar gostau gweithgynhyrchu, amser segur heb ei gynllunio, ansawdd a chynnyrch. Mae'r datblygiadau hyn wedi'u cymhwyso'n llwyddiannus i feysydd gwahanol ym myd diwydiant a gweithgynhyrchu, gan gynnwys: (i) lleihau diffygion mewn prosesau creu dur ac optimeiddio perfformiad tanwydd mewn gweithrediadau ffwrneisi chwyddo (y diwydiant dur); (ii) canfod ar gyfer dadansoddi awtomataidd aneffeithlonrwydd gweithgynhyrchu wrth greu caniau (y diwydiant pecynnu); (iii) optimeiddio prosesau cydosod roboteg.

Canlyniad pwysig ymchwil Dr Giannetti yw gwella ein dealltwriaeth o fanteision mabwysiadu Technolegau Digidol Diwydiannol, a'u gwerth, a magu hyder gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr i fuddsoddi yn y maes hwn, gan gyfrannu at y Deyrnas Unedig yn dod yn arweinydd mewn gweithgynhyrchu digidol.

Cydweithrediadau

Yr Athro Cinzia Giannetti: Darlith Agoriadol, 2022