Am y Wobr

Clip from Dylan Thomas poem

Mae Gwobr Dylan Thomas flynyddol Prifysgol Abertawe, a lansiwyd yn 2006, yn un o'r gwobrau mwyaf mawreddog i awduron ifanc, gyda'r nod o annog talent greadigol amrwd ledled y byd. Mae'n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Mae’n un o wobrau llenyddol mwyaf mawreddog y DU yn ogystal ag un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i awduron ifanc. Wedi’i dyfarnu am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau, mae’r Wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama.

Mae’r wobr wedi’i henwi ar ôl yr awdur a aned yn Abertawe, Dylan Thomas, ac mae’n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Yn un o lenorion mwyaf dylanwadol, rhyngwladol-enwog canol yr ugeinfed ganrif, mae’r wobr yn dwyn ei gof i gefnogi awduron heddiw ac i feithrin doniau yfory.

Roedd Dylan Thomas, yr ysgrifennwr llencynnaidd hanfodol, yn ddelfrydol o addas i ysbrydoli awduron ifanc ym mhobman. Roedd ffresni ac uniongyrchedd ei waith ysgrifennu'n rhinweddau nas collodd erioed.

"Dylan Thomas oedd y bardd a anwyd yn Abertawe y llwyddodd ei eiriau a'i berfformiadau gwefreiddiol i goncro Llundain a Gogledd America ac i'w wneud yn un o ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol canol yr ugeinfed ganrif. Mae'r Wobr a sefydlwyd yn ei enw wedi dal dychymyg ysgrifenwyr yn rhyngwladol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae deg ar hugain o ysgrifenwyr y rhestri byrion o bob cyfandir wedi dod i Gymru i siarad â myfyrwyr a dosbarthiadau ysgrifennu. Enillwyd y Wobr gan ysgrifenwyr o Gymru a Gogledd Iwerddon, Awstraliad o dras Vietnam a thri Americanwr. Prifysgol Abertawe yw prif noddwr y Wobr ac mae'n falch o fod yn gysylltiedig â chystadleuaeth sy'n gwahodd ceisiadau gan ysgrifenwyr ifanc o bedwar ban y byd".  (Peter Stead, Sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas)

Mae ein partneriaeth wedi tyfu o rannu’r un amcanion: rydym yn ceisio canfod a meithrin dawn, dathlu creadigrwydd, a chyflawni rhagoriaeth ryngwladol.  Rydym am dynnu’r pethau gorau am Abertawe at sylw’r byd, a dod ag artistiaid, ysgolheigion, a myfyrwyr o ledled y byd i Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe, yn brifysgol ymchwil dwys, yn ffynnu ar greadigrwydd myfyrwyr a staff ar draws ei disgyblaethau aml. Rydym yn gobeithio y byddwch chi, yn ystod y blynyddoedd i ddod, yn ymuno â ni, a Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, i gymeradwyo a chynorthwyo’r goreuon oll o blith ein hawduron ifainc.