Athro Sean Hartnoll - 2023 Darlith

Athro Sean Hartnoll

ENTROPY: FROM HEAT ENGINES TO BLACK HOLES AND QUANTUM COMPUTERS

Mae'r Athro Sean Hartnoll, yn Athro Ffiseg Fathemategol yn Adran Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Ddamcaniaethol (DAMTP), Prifysgol Caergrawnt.

Ynglŷn â'r siaradwr: Yn ffisegwr damcaniaethol blaenllaw, mae ei arbenigedd yn cynnwys Damcaniaeth Maes Cwantwm, Disgyrchiant a Damcaniaeth Llinyn.  Mae ei waith ymchwil yn rhychwantu nifer o feysydd ffiseg ddamcaniaethol ac, yn fwyaf nodedig, mae’n pontio meysydd astudio systemau Mater Cyddwysedig (e.e. uwch-ddargludyddion a systemau Cwantwm Hall) gyda ffiseg Tyllau Duon.

Bu'r Athro Hartnoll yn arloesol wrth ddefnyddio cyfatebiaeth holograffig rhwng disgyrchiant a QFT i ddangos sut mae ffiseg systemau uwch-ddargludol sy'n rhyngweithio'n gryf yn gallu cael ei dal gan atebion twll du dimensiwn uwch gwifredig, yn y broses o ddatgloi llwybr y bu chwilio hir amdano at ddeall y ffiseg anhydrin sy'n gefndir i ffenomena megis uwch-ddargludedd tymheredd uchel. Ar gyfer y rhain a chyfraniadau ymchwil arloesol cysylltiedig y dyfarnwyd Gwobr New Horizons uchel ei bri i Sean yn 2015.

Crynodeb:

Dyfeisiwyd y syniad o entropi yn sgîl y Chwyldro Diwydiannol i ddisgrifio'r ffaith na allai peiriannau gwres byth fod yn hollol effeithlon. Yn ddiweddarach, deallwyd bod entropi'n cael ei gynhyrchu drwy broses anghildroadwy , oherwydd bod gwrthrychau macrosgopig pob dydd yn cynnwys nifer o foleciwlau bach iawn y mae eu symudiadau microsgopig mor gymhleth fel nad oes gobaith o harneisio eu hegni mewn ffordd ddefnyddiol. Caiff y syniad hwn o "egni anhygyrch" ei ategu gan gyfrifiad Hawking a Bekenstein o entropi twll du yn y 1970au: mae'r stwff y tu mewn i dwll du'n annirnadwy i arsylwr allanol.

Athro Syr Michael Berry - 2022 Darlith

Athro Syr Michael Berry

Making Light of Mathematics

Yr Athro Syr Michael Berry, h.h.wills labordy ffiseg, Prifysgol Bryste

Ynglŷn â'r siaradwr: Mae'n ffisegydd mathemategol/damcaniaethol sydd wedi gwneud cyfraniadau arloesol mewn sawl maes ffiseg, ac yn y broses mae wedi creu meysydd gwyddonol cwbl newydd: astudio cyfnodau geometrig a elwir yn gyffredin yn gyfnod Berry, a'r crymedd Berry sy’n gysylltiedig, a chyswllt Berry mewn mecaneg cwantwm, opteg unigol ac anhrefn cwantwm.

Mae’n ffisegydd sydd wrth ei fodd â phosau opteg, cwantwm a mecaneg glasurol. Mae ei waith ymchwil yn pontio ffiniau ffiseg glasurol a chwantwm, lle caiff ffenomena ffisegol hynod ddiddorol (e.e. hynodrwyddau mewn enfysau, opteg gyda thaflenni plastig, topiau sy’n codi i’r awyr, drychau hud, cawstigion) eu hesbonio gan ddefnyddio mathemateg yr un mor ddiddorol a phwerus, megis cyfresi asymptotig, hyper-asymptotig, uwch-asymptotig (!) a chyfresi ailgyfodol. Mae’r Athro Berry wedi derbyn nifer o wobrau mawr i gydnabod ei ddarganfyddiadau, gan gynnwys Gwobr Dirac (IoP, 1990), Medal Dirac (ICTP, 1996), Gwobr Wolf (1998), a gwobr Polya mewn mathemateg (2005). Cafodd ei urddo'n farchog ym 1992, mae'n Gymrawd etholedig o'r Gymdeithas Frenhinol, yn aelod etholedig o Academi Gwyddorau Genedlaethol yr UDA a thair academi genedlaethol arall. Mae'r Athro Berry yn adnabyddus am ei ddarlithoedd hardd, cyfareddol sy'n dangos pŵer syniadau mathemategol haniaethol sydd wedi'u cuddio mewn systemau ffisegol “pob dydd” sy'n hynod ddiddorol: yn ei eiriau ei hun: "the arcane in the mundane”.

Gwyliwch y fideo