‘Cynhelir y mwyafrif o ymchwil ffiseg gan dimau a’i datblygu drwy rannu a thrafod gan gynnwys safbwyntiau gwahanol. Mewn sawl ffordd, mae ymchwil eisoes wedi’i seilio ar raddfa fawr o wahaniaeth cymdeithasol (e.e. cenedligrwydd amrywiol oherwydd symudedd a chymuned fyd-eang gryf), ond, mewn prif feysydd eraill, mae diffyg amrywiaeth yn yr ymdrechion gwyddonol – yn benodol o ran menywod, grwpiau lleiafrifoedd  penodol a phobl ag anableddau. Mae profi cynnydd ym maes ffiseg yn dibynnu ar fagu rhagoriaeth a dawn. Trwy hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, rydyn ni’n ceisio cefnogi’r gronfa ddoniau sy’n ehangu a chynyddu cynnwys grwpiau a dangynrychiolwyd yn draddodiadol’ – Yr Athro Peter Dunstan, Pennaeth Adran.  

Mae’r Adran Ffiseg yn ymrwymedig i wella canlyniadau a phrofiad Addysg Uwch ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynd i’r afael ag unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb ym maes ffiseg. Mae ein gweledigaeth ar gyfer ffiseg yn yr 21ain Ganrif yn un sy’n cynnwys pawb.

Mae gan yr Adran Bwyllgor Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynwysoldeb sy’n cyfarfod unwaith y tymor. Caiff menywod a dynion, uwch academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig, staff parhaol a staff rhan-amser oll eu cynrychioli ar y pwyllgor. Mae Pennaeth yr Adran yn eistedd ar y pwyllgor gan ddangos yr ymrwymiad i wella ein harferion gwaith er lles pawb. Mae cyfle cyfartal yn allweddol i bawb.

Os hoffech chi wybod mwy neu os hoffech chi wneud awgrymiadau i’r pwyllgor e-bostiwch ni yn py-dei@abertawe.ac.uk

Y Pwyllgor Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynwysoldeb

Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynwysoldeb

Mae’r Adran yn ymrwymedig i wella ein harferion gwaith er lles pawb. Mae cyfle cyfartal yn allweddol i bawb.

Prosiect Juno y Sefydliad Ffiseg

Prosiect Juno y Sefydliad Ffiseg

Dyfarnwyd gwobr Ymarferydd Juno i Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe.

Gwobr Efydd Athena SWAN

Arian Athena SWAN

Mae Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe’n meddu ar Wobr Efydd Athena SWAN. Mae Prifysgol Abertawe’n meddu ar Wobr Arian Athena SWAN

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Grŵp Menywod ym maes Ffiseg @ Abertawe

Bore Coffi 3EI

Bore Coffi 3EI

Fe’i cynhelir ar ddydd Gwener olaf y mis, 10:30, yn yr Adeilad Gwyddoniaeth Canolog

 

Cydraddoldeb mewn Gwyddoniaeth y Coleg Gwyddoniaeth

myfyrwyr daearyddiaeth merched

Adeiladu amgylchedd a chymuned sy'n gefnogol, yn gynhwysol ac yn llawn cymhelliant.