Digwyddiadau Rhyngwladol Diwrnod y Menywod 2021

image of Teresa Zawieja
Rydw i'n fyfyriwr Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu yn y flwyddyn gyntaf ar Gampws Singleton ac mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, ffilmiau, drag a fformiwla 1. Dydw i ddim bob amser wedi bod yn berson agored a goddefgar. Newidiodd hynny pan ddechreuais ddarllen a chwilio am ragor o wybodaeth am bobl sy'n wahanol i mi. Rydw i'n credu ein bod yn gallu troi ein byd yn lle sydd o leiaf ychydig yn well drwy addysg a pharodrwydd.

Er mwyn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gwnaeth Prifysgol Abertawe neilltuo wythnos gyfan ar gyfer gwahanol ddigwyddiadau a wnaeth dynnu sylw at y gwahaniaethu sy'n effeithio ar fenywod o hyd. Es i i dri digwyddiad a oedd yn wahanol, ond roedd pob un ohonynt yn codi calon.

Cynhaliwyd yr un cyntaf ar 8 Mawrth, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cyfarfod â dau fardd anhygoel oedd ef - Lizzie Finchman a Natalie Ann Holborow. Mae Lizzie yn fardd a aned ym Mhenrhyn Gŵyr, ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth a llawer o wobrau. Pan ofynnwyd iddi am y digwyddiad mwyaf trawsnewidiol iddi hi fel bardd, siaradodd am ei thaith i Cracow ac am fardd sy'n ei hysbrydoli hi fwyaf - Czeslaw Milosz. Gwnaeth roi pwyslais ar faterion sy'n agos ati - megis ecoleg, mewnfudo a hefyd sut gwnaeth ymdrochi mewn diwylliant Ewropeaidd. Ar y llaw arall, honnodd Natalie ei bod hi a'i barddoniaeth wedi newid yn sgîl ei thaith i'r dwyrain. Siaradodd y bardd am ddwyreinio a sut dylai artist fynd i'r afael â'r mater hwnnw er mwyn osgoi sarhau rhywun. Mae ei barddoniaeth hefyd yn adlewyrchu ei phroblem ei hun, ei demoniaid bach, megis anhwylderau bwyta a gorbryder. Drwy rannu'r profiad hwnnw, dywedodd, roedd hi'n teimlo'n rymus. Gan fod gan y ddau fardd gysylltiad â Phrifysgol Abertawe, byddai'n wych eu cefnogi a phrynu eu pamffledi.

Ar 9 Mawrth, cynhaliwyd digwyddiad o'r enw Daring to Be Different. Roedd yn sgwrs rhwng tair menyw wahanol ond anhygoel, sydd wedi llwyddo mewn ffyrdd gwahanol. Y gyntaf oedd Jill Nalder, actores yn y West End a ysbrydolodd Russell T Davies i ysgrifennu'r rhaglen, It's a Sin, a soniodd am bandemig AIDS yn y 1980au. Collodd dri ffrind yn ystod yr adegau hynny, a dywedodd hi eu bod nhw 'wedi diflannu'. Mae hi wedi helpu i sefydlu elusen sef West End Cares, a gododd dros £2 miliwn yn ystod ei blynyddoedd cyntaf. Ei henw yw Theatre MAD (Make a Difference) bellach. Yr ail westai oedd Rosaleen Moriarty-Simmonds a gafodd ei geni heb goesau na breichiau. Mae hi'n weithredydd sy'n brwydro am gydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Mae hi wedi siarad am rwystrau y mae'n rhaid i bobl fel hi eu goresgyn, sy'n weithgareddau beunyddiol i bobl heb anableddau - megis cael mynediad at drafnidiaeth, byw yn annibynnol neu gael perthnasoedd. Cafodd ei hanrhydeddu ag OBE gan y Frenhines ac mae'n credu nad hi yw'r unig berson anabl sy'n gallu bod yn llwyddiannus. Y person olaf oedd Jo Cracknell sy'n gweithio i Vodafone. Yn ystod ei gwaith, mae hi wedi profi gwahaniaethu a rhywiaeth. Nawr, gan ei bod hi wedi llwyddo, mae hi am ddangos i fenywod eraill nad yw bod yn fenyw yn rhwystr i lwyddo.

Cynhaliwyd y digwyddiad olaf, sef Encouraging Inclusivity by Choosing to Challenge Inequality, ar 10 Mawrth ac roedd yn gyflwyniad gan Dr Omolabake Fakunle sy'n Gymrawd y Canghellor ym Mhrifysgol Caeredin. Siaradodd am weithredoedd y mae'n rhaid i ni fel myfyrwyr a staff y Brifysgol eu cymryd er mwyn bod yn gynhwysol. Dangosodd Fakunle ystadegau i ategu cyn lleied o fenywod sy'n dilyn rhaglenni gradd cyfrifiadura, a sut mae'r rhifau hynny wedi cwympo dros ychydig o flynyddoedd. Mae sefyllfa menywod croenliw yn waeth byth ac mae'n dangos nad yw'r hyn yr ydym yn ei wneud yn ddigon. Hefyd, roedd hi am godi ymwybyddiaeth o fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau eraill, megis plant, a bod yn rhaid inni eu deall a'u helpu yn y ffordd orau. Nid yw eu tawelwch nhw bob amser oherwydd nad ydynt yn hoff o siarad, ond weithiau oherwydd diffyg cynwysoldeb. Os ydym am fod yn gynhwysol, mae'n rhaid inni feddwl am y rhai sydd heb lais.

Nid dathlu'r hyn yr ydym wedi ei gyflawni dros y degawdau diwethaf yn unig yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ond hefyd mae'n frwydr barhaus ynghylch pawb, hyd yn oed y rhai nad ydym yn eu deall. Mae'n rhaid inni feddwl am ein breintiau a sut gallwn ni eu defnyddio i helpu'r rhai nad oes breintiau ganddynt. Yr unig fyd y gallwn ni fyw ynddo yw byd sy'n gyfartal i bawb. Sefyll dros y rhai na allant frwydro dros eu hunain.

Yn sgîl digwyddiadau diweddar o ran marwolaeth Sarah Everard, hoffem gadarnhau nad yw Prifysgol Abertawe yn lle sy'n derbyn achosion fel hynny. Os nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel, gallwch gasglu larwm trais rhywiol gan MyUniHub ar y ddau gampws. Hefyd, gallwch ymaelodi â Walk-Safe: Swansea, sy'n grŵp ar Facebook lle gallwch ofyn i bobl ymuno â chi wrth ichi gerdded. Cofiwch nid arnoch chi mae’r bai, ac mae aflonyddu rhywun yn rhywiol yn drosedd. Os ydych chi wedi cael eich aflonyddu, dylech gysylltu â'r heddlu a gallwch ddefnyddio cymorth seicolegol y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig hefyd. Nid ydych chi ar eich pen eich hun!