"Canlyniadau mwy iach, mwy cynaliadwy a mwy llwyddiannus yn fyd-eang"

Ers sefydlu'r Brifysgol ym 1920 gydag 89 o fyfyrwyr, mae wedi tyfu'n brifysgol â dau gampws sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil amlddisgyblaethol. O ymchwilwyr chwyldroadol i arweinwyr â gweledigaeth, bydd rhagoriaeth myfyrwyr presennol, cyn-fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe yn parhau i wneud cyfraniadau gwerthfawr at gyflawni canlyniadau mwy iach, mwy cynaliadwy a mwy llwyddiannus yn fyd-eang.

Mae ein cymuned yn cynnwys y myfyrwyr disgleiriaf sy'n cael effaith sylweddol ar yr economi, y gymdeithas a maes iechyd yng Nghymru a'r tu hwnt.  Mewn byd ansicr ar adeg globaleiddio, mae'n bwysicach nag erioed i Brifysgol Abertawe barhau i drawsnewid bywydau a dyfodol pobl drwy gynnig addysg ragorol a hwyluso gwaith ymchwil o safon fyd-eang.

Bydd pob rhodd gennych chi yn cefnogi ein cenhadaeth i ysbrydoli ac arloesi am 100 mlynedd arall. Byddai cymynrodd yn ein helpu ni i barhau i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr ac yn sicrhau y byddwn bob amser yn gartref i feddylwyr mawr y dyfodol.

Dr Carol Bell