Teyrnged deilwng i wirfoddolwr ffyddlon

Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn cyrraedd pedwar ban byd!

Yn yr un modd â gweddill y sector treftadaeth, bu llawer o heriau i'r Ganolfan Eifftaidd o ganlyniad i bandemig Covid-19, wrth i'r amgueddfa gau i'r cyhoedd o fis Mawrth 2020 tan fis Hydref 2021. Cafwyd effaith sylweddol ar y ffynonellau incwm traddodiadol (gwerthiannau yn y siop, ymweliadau gan ysgolion a digwyddiadau wyneb yn wyneb). Fodd bynnag, profodd yr heriau hyn yn sbardun i ehangu dulliau ymgysylltu'r amgueddfa, gan greu amrywiaeth eang o adnoddau digidol, a chynyddu ei phresenoldeb ar-lein yn aruthrol. Drwy ddefnyddio Zoom, cawsom gyfle i greu cymuned rithwir o gefnogwyr o bedwar ban byd. Ers mis Mawrth 2020, rydym wedi llwyddo i ymgysylltu â chynulleidfaoedd o fwy na 59 o wledydd ar draws chwe chyfandir. Roedd llawer o'r cefnogwyr newydd hyn heb glywed am y Ganolfan Eifftaidd na Phrifysgol Abertawe cyn y pandemig.

Diolch i blatfform cyllido torfol y Brifysgol, gwnaethom godi £9,200 dros dri mis ar ddechrau'r pandemig. Cawsom ein syfrdanu gan y gefnogaeth a gawsom ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd. Drwy roddion i Gronfa'r Angen Mwyaf, gwnaethom lwyddo i lansio ein catalog ar-lein newydd, a alluogodd ymchwilwyr, myfyrwyr a'r gymuned ehangach i gael mynediad hyd yn oed pan oedd yr amgueddfa ar gau. Rydym wedi cael ein cymeradwyo ers hynny am feddu ar un o'r casgliadau amgueddfa mwyaf hygyrch ar-lein! Drwy roddion a dderbyniwyd gan y Ganolfan Eifftaidd, roeddem hefyd yn gallu prynu blwch ysgrifennu, mathemateg a mesur newydd. Bydd y blwch newydd hwn hefyd yn ein galluogi i gyflwyno arddangosion dros dro, gan gynnwys rhai wedi eu curadu gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Teyrnged i Merlys Gavin

Y llynedd, gwnaethom golli un o'r gwirfoddolwyr a oedd wedi ein gwasanaethu am y cyfnod hwyaf, Merlys Gavin, a ddechreuodd wirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd ym 1998. Roedd Merlys yn gyn-athrawes mathemateg a hi oedd arbenigwr mathemateg ein tîm. Gwnaeth Merlys benderfynu cofio'r Ganolfan Eifftaidd yn ei hewyllys. Bydd y blwch newydd yn cael ei gyflwyno er cof am Merlys a'i blynyddoedd o wasanaeth i'r amgueddfa, a bwriedir cynnal digwyddiad dadorchuddio ym mis Rhagfyr 2022. Dyma deyrnged deilwng i Merlys, na fyddai wedi bod yn bosibl heb haelioni’r rhoddwyr. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi a helpu'r Ganolfan Eifftaidd i ffynnu yn ogystal â goroesi.