“Roeddwn i wir eisiau rhoi rhywbeth yn ôl”

Mae’n bleser gennym gydnabod Mr Alan Gudgin, myfyriwr Economeg (Dosbarth 1960), cefnogwr eithriadol sy’n dweud wrthym am ei amser fel rhan o gymdeithas gorawl y Brifysgol a pham y dewisodd gofio’r Brifysgol yn ei Ewyllys.

Pam dewisoch chi gofio Prifysgol Abertawe yn eich ewyllys?

Mae'n ymwneud â'r cyfnod pan oeddwn i'n fyfyriwr israddedig ac ymunais â'r gymdeithas gorawl yn ystod fy nhymor cyntaf. Roeddwn i'n teimlo fy mod i wedi elwa cymaint o fod yn rhan o'r gymdeithas gorawl fel fy mod i eisiau ad-dalu'r gymwynas.

Beth gallwch chi ei ddweud wrthym am y Brifysgol a'r gymdeithas gorawl bryd hynny?

Roedd y Brifysgol, neu'r Coleg fel yr oedd bryd hynny, mor fach, roeddech chi'n adnabod pawb yn dda iawn. Roedd 40 o bobl yn y côr a 750 o fyfyrwyr yn unig yn y Coleg. Er bod y Coleg yn fach a doedd dim ffonau na'r dechnoleg sydd ar gael heddiw gennym, bydden ni'n creu ein hadloniant ein hunain, ac roedd y gymdeithas gorawl yn chwarae rôl bwysig yn hynny o beth. Pan oeddwn i'n fyfyriwr, roedd yr holl gyllid ar gyfer cymdeithasau'n dod o Undeb y Myfyrwyr, ac rwyf bob amser wedi cwestiynu sut byddai myfyrwyr yn gallu parhau i fforddio cymryd rhan mewn cymdeithasau a manteisio i'r eithaf arnynt.

Dywedwch wrthym am ‘Ysgoloriaeth Gorawl Alan Gudgin’

Nod yr ysgoloriaeth yw cefnogi a gwella ysgoloriaethau corawl yn y Brifysgol, i sicrhau bod traddodiad cerddoriaeth gorawl ym Mhrifysgol Abertawe yn parhau am gyhyd â phosibl.

Beth a wnaeth ysgogi eich rhodd?

Datblygiad a thwf y Brifysgol, a cherddoriaeth yn benodol, a wnaeth fy ysgogi i greu cronfa a fydd yn cryfhau ac yn cefnogi cerddoriaeth gorawl yn Abertawe. Roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl i sefydliad a roddodd gymaint o fudd i mi ochr yn ochr â'm hastudiaethau. Roedd gennym y cyfle i ganu amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o arlwy clasurol Mozart, Handel, Vivaldi a Faure, i ganeuon gwerin traddodiadol Cymru. Rwyf wedi elwa o'r profiadau hyn am y rhan fwyaf o'm mywyd. Bydda i'n falch o wybod bod y traddodiad cerddorol yn Abertawe yn derbyn cymaint o gefnogaeth, ac rwyf wrth fy modd fy mod i'n gallu helpu pobl i fwynhau canu ac i’w hybu.

Hoff Atgof

Mae'r gymdeithas gorawl yn dod â phob pwnc ynghyd.  Fy hoff atgof oedd cymryd rhan yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a oedd yn cynnwys pedwar coleg lleol o Gymru ac a gynhaliwyd yn ystod tymor y Pasg. Roedd costau teithio a llety'n rhad ac am ddim a chefnogwyd hyn gan Undeb y Myfyrwyr. Rwy'n deall bod pethau'n dra gwahanol erbyn hyn, sy'n rhan o'r rheswm pam roeddwn i am gefnogi'r Brifysgol yn y ffordd hon.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd yr ysgoloriaeth yn ei gyflawni?

Rwy'n gobeithio y bydd yn cynnal y traddodiad o gerddoriaeth gorawl, gan alluogi'r Brifysgol i elwa o'r hyn sydd gan y Gymdeithas Gorawl i'w gynnig, a'r hyn mae'r ysgoloriaeth yn ei gynnig i'r unigolyn.

A fyddech chi'n argymell gadael cymynrodd i Brifysgol Abertawe?

Byddwn, yn bendant.  Ces i gyfnod gwych yn Abertawe – byddwn i'n dychwelyd yfory pe bawn i'n gallu.