Mae'r Grŵp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB) yn trafod y berthynas gyd-ddibynnol rhwng ysgrifennu creadigol a beirniadol.Gall syniadau beirniadol ysgrifenwyr creadigol gweithredol, sy'n deillio o brofiad personol o'r broses ysgrifennu, gael eu colli gan ysgolheigion sydd efallai am sefydlu gwrthrych astudio beirniadol yn eu meysydd. I'r gwrthwyneb, mae'n bosib na fydd cyw ysgrifenwyr yn ymwybodol o syniadau damcaniaethol am ddehongli testunau sy'n seiliedig ar wybodaeth am hanes llenyddol a beirniadaeth ddiwylliannol, er y gall syniadau o'r fath fod yn 'greadigol'. Rydym yn cynnal chwe digwyddiad blynyddol ar ffurfiau hyblyg - grwpiau trafod, seminarau, darlithoedd gwadd, cyflwyniadau, byrddau crwn a chyfweliadau - pan fydd staff academaidd ac ôl-raddedigion yn siarad am eu hymarfer creadigol a beirniadol.

Mae'r grwp creadigol-beirniadol hwn yn fforwm rhyngddisgyblaethol er budd y gymuned ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r tu hwnt iddi. Cenhadaeth y GYCB yw:

  • darparu cartref a ffenestr siop ar gyfer allbynnau sylweddol ysgrifennu creadigol.
  • trefnu grwpiau trafod, paneli, darlithoedd gwadd, byrddau crwn, cyflwyniadau a chyfweliadau wedi'u harwain gan ymchwil/ymarfer a fydd yn darparu cydlyniad deallusol i'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr PhD.
  • datblygu partneriaethau â diwydiannau creadigol gan gydweithio'n agos â'r Sefydliad Diwylliannol.
  • darparu canolbwynt rhyngddisgyblaethol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (ac, o bosib, rhwng Cyfadrannau) i'r rhai sy'n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol (gan gynnwys y cyfryngau), ymarfer creadigol-beirniadol a/neu ymarfer beirniadol.
  • mewn partneriaeth â'r Sefydliad Diwylliannol, cefnogi cyfleoedd rhwydweithio a datblygu gyrfa i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd creadigol (staff ac ôl-raddedigion).
  • darparu fforwm lle gall y gymuned gynyddol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym maes ysgrifennu creadigol gydweithio â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o staff.
  • eirioli dros gyllid i'r celfyddydau.
  • gweithio mewn partneriaeth agos â'r Sefydliad Diwylliannol i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth ar gyfer cynulleidfaoedd targed amrywiol, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys rhagor o ddigwyddiadau beirniadol-greadigol yn y dyfodol.

Bwrdd Rheoli: Dr Alan Bilton a Dr Richard Robinson (Cyd-drefnwyr), Dr Elaine Canning, yr Athro Kirsti Bohata, yr Athro Julian Preece, Dr Joanna Rydzewska, yr Athro Tudur Hallam a Dr Alexia Bowler.

Ffotograff o Dr Alan Bilton

Mae Dr Alan Bilton yn academydd ac yn nofelydd sy'n darlithio mewn Astudiaethau Americanaidd a Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n awdur dwy nofel o natur swrealaidd a naws breuddwyd, The Sleepwalkers’ Ball (2009) a gyhoeddir gan y wasg Gymreig annibynnol, Alcemi, ac Unknown Sea (2014), ynghyd â'r casgliad straeon byrion, Anywhere Out of the World (2016). Yn ogystal, ef yw awdur Silent Film Comedy and American Culture (2014), An Introduction to Contemporary American Fiction (2002) a bu'n gyd-olygydd The American 1920s (2004). Mae ei ffuglen fer, ei draethodau a'i ddamcaniaethau wedi cael eu cyhoeddi yn y New Welsh Review, Planet, the Journal of American Studies, The European Journal of American Culture. Mae nofel newydd Dr Bilton, The End of the Yellow House, yn ffantasi hanesyddol sy’n adrodd stori am sanatoriwm sydd wedi'i ynysu o anhrefn Rhyfel Cartref Rwsia. Y nofel yw cyhoeddiad cyntaf Gwasg Watermark a gellir ei phrynu ar eu gwefan.

Ffotograff o Dr Richard Robinson

Athro Cysylltiol yn Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe yw Dr Richard Robinson. Mae'n gweithio ym maes ysgrifennu cyfoes yn yr ugeinfed ganrif, ac mae diddordeb arbennig ganddo mewn moderniaeth a moderniaeth hwyr, Astudiaethau Gwyddelig, astudiaethau ar ffiniau (yn benodol, gynrychioliadau o Ganol Ewrop), ac agweddau ar ffilm a ffuglen Eidalaidd. Mae'n awdur Narratives of the European Border: A History of Nowhere (Palgrave, 2007) a John McGahern a Modernism (Bloomsbury, 2017) ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar awduron megis James Joyce, Kazuo Ishiguro, John McGahern, Italo Svevo, Rebecca West, Ian McEwan ac Edward St Aubyn.

Ar hyn o bryd mae Richard yn datblygu prosiect cydweithredol ar arddull, sy'n cael ei ystyried yn gysyniad bythol anniffiniadwy ym maes beirniadaeth lenyddol, theori ac athroniaeth. Mae'n cyd-olygu rhifyn arbennig o Textual Practice yn y dyfodol agos ar 'The Contemporary Problem of Style'. Ynddo, mae'n ystyried theori ac ymarfer arddull yn y cyflwyniad a cheir ynddo hefyd erthygl ganddo am arddull, tafodiaith a llenyddiaeth y byd mewn perthynas ag Elena Ferrante. Yn fwyaf diweddar ym maes Astudiaethau Gwyddelig, bydd yn cyflwyno ei bapur ‘The Unnamables: Anna Burns’s Milkman’ ar gyfer cynhadledd IASIL (Cymdeithas Ryngwladol Astudio Llenyddiaeth Wyddelig) sydd ar ddod yn Łódź yr haf hwn.