Mae'r Grŵp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB) yn fforwm cyfnewid syniadau i ysgrifenwyr o bob lliw a llun: beirdd, nofelwyr, ysgrifenwyr straeon byrion, dramodwyr, beirniaid llenyddol, ysgolheigion, ysgrifwyr a newyddiadurwyr. Mae'r grŵp yn archwilio ymarfer cyd-gysylltiedig darllen beirniadol ac ysgrifennu beirniadol mewn cyfres o gyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rydym hefyd yn rhyngweithio â'r diwydiannau creadigol sydd, drwy'r Sefydliad Diwylliannol a phartneriaethau adrannol, yn cyflwyno’r ysgrifennu hwn i'r cyhoedd yn ei holl ffurfiau.

Dr Alan Bilton a Dr Richard Robinson yw Trefnwyr y Grŵp. Os hoffech ddod yn aelod, neu os  hoffech awgrymu gweithgareddau am y dyfodol, anfonwch e-bost atom.

Brand GYCB

Cynhelir chwe digwyddiad blynyddol ar ffurfiau hyblyg: grwpiau trafod, seminarau, darlithoedd gwadd, cyflwyniadau, byrddau crwn a chyfweliadau. Anogir ôl-raddedigion gan eu goruchwylwyr i siarad am eu hymarfer creadigol a beirniadol, ac i fynychu sesiynau am sut i ddechrau cyhoeddi. Mae manylion am bynciau posib ar dudalen y Seminarau Ymchwil.