Tŷ Fulton, a elwid yn Nhŷ’r Coleg o’i agoriad ym 1961 hyd at 1986, yw un o adeiladau mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol ar Gampws Singleton. Drwy gydol y 1950au cynnar, rhoddwyd cynlluniau helaeth ar waith i ehangu safle Singleton. Wrth wraidd y weledigaeth hon oedd adeilad mawr a allai weithredu fel man cwrdd a hyb cymdeithasol academaidd. A dyma’r hyn a ddaeth i fod wedi 1961. Roedd yr adeilad yn cynnwys ystafelloedd cyffredin, ystafell gerdd, lolfa goffi, llyfrgell ychwanegol, siop lyfrau a siop trin gwallt i ddynion. Cafodd hyn effaith drawiadol ar y math o gymuned a oedd yn gallu ffynnu yn y Brifysgol. Tan 1961, roedd yn rhaid i staff a myfyrwyr y Brifysgol gydymffurfio â’r drefn ‘naw tan bump’, ac er yr oedd ffreutur ac ystafell gyffredin i fyfyrwyr hŷn, nid oed man ymgynnull o bwys ar y campws.

Cafodd hyn oll ei newid gan Dŷ’r Campws. Yn y broses, daeth i fod yn lleoliad ar gyfer cyngherddau cerddorol mawr hefyd. O’r 1960au ymlaen, roedd gan y Brifysgol ei band ei hun o’r enw’r Bogies, a oedd yn boblogaidd iawn. Byddai myfyrwyr yn ciwio i’w gwylio’n chwarae yn y Brifysgol. Daeth enwau mawr i chwarae hefyd, gan gynnwys The Who oddeutu 1965. Prys Morgan, a oedd yn ddarlithydd ifanc ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am gwrdd â’r band a thywys ei aelodau i’w hystafell lle gallent baratoi am y gig. Fel llawer o bobl ar y pryd, nid oedd ef wedi clywed amdanynt o’r blaen a chofiodd y cyrhaeddon nhw’n hwyr iawn oherwydd aethon nhw ar goll ar eu taith i Abertawe, gan benderfynu gyrru ar heolydd troellog canolbarth Cymru a’r Cymoedd!

The Who mewn llun cyhoeddusrwydd cynnar. (O’r chwith i’r dde - John Entwistle, Roger Daltrey, Pete Townshend a Keith Moon). 1965/66. KRLA Beat.  Wiki Commons.

An image of The Who from 1965

Roedd adeiladu Tŷ’r Coleg, lle'r oedd bandiau fel The Who yn chwarae, yn cyd-fynd ag adeiladu dwy neuadd breswyl mewn tyrrau ar y campws. Golyga hyn y gallai llawer o fyfyrwyr o’r 1960au cynnar fyw eu bywydau’n gyfan gwbl ar y campws petaent yn dymuno gwneud hynny, gan gymryd eu prydau o fwyd yn Nhŷ’r Coleg a hyd yn oed giniawau ffurfiol yn yr ystafelloedd bwyta lle, am y degawdau cynnar os nad wedi hynny, byddai myfyrwyr yn gwisgo gynau ac yn eistedd mewn rhesi wrth fyrddau hir. Lluniwyd yr arfer hwn yn fwriadol i adlewyrchu ymddygiad mewn prifysgolion elît. Dyluniwyd Tŷ’r Coleg gan y penseiri Percy Thomas a’i Feibion, a’u cyd-bensaer Dale Owen yn benodol. Mae ei olwg yn fwriadol iawn. Mae ganddo ffenestri mawr sy’n edrych dros Barc Singleton a Bae Abertawe.

Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.

Black and white photo of students dancing in College House.

Myfyrwyr yn dawnsio yn Nhŷ’r Coleg tua 1960au © John Maltby

Mae Prys Morgan yn disgrifio taith heriol The Who i gyrraedd Abertawe ar gyfer cyngerdd yn ystod y 1960au. (Cyfweliad â’r Athro Prys Morgan gan Dr Sam BlaxlandVoices of Swansea University, 1920-2020. 2017 ).