Ar brynhawn ddydd Llun 19 Gorffennaf 1920, cyrhaeddodd Brenin Siôr V a’i wraig ym Mharc Singleton i osod carreg sylfaen Coleg Prifysgol Abertawe. Cynhaliwyd seremoni grand i nodi’r achlysur, gan gynnwys llawer o ffigyrau nodedig o symudiad y Brifysgol yn ogystal â phwysigion y dref a’r rhanbarth, i gyd yn ymgynnull yn y parc i fod yn dystion i’r achlysur. Portreadir yr olygfa mewn paentiad mawr gan Percy Gleaves, y mae’r fersiwn a adferwyd wedi’i harddangos yn Abaty Singleton.

Ym mis Gorffennaf 1920, roedd ansicrwydd yn parhau o ran ble a sut y byddai’r Coleg newydd yn gweithredu yn ystod yr hydref a oedd yn nesáu ac nid arhosodd y garreg lle y’i gosodwyd gan y Brenin. Ni ddaeth o hyd i gartref parhaol nes iddi gael ei gosod yn wal Llyfrgell 1937, sef yr adeilad prifysgol parhaol pwrpasol cyntaf ar safle Singleton.

Frenin George V, 1923

Wrth osod y garreg sylfaen, dywedodd Brenin Siôr V:

'Mae’n bleser arbennig gennyf osod carreg sylfaen yr adeilad newydd ar gyfer Coleg Prifysgol yng Nghymru....Tasg eich Coleg fydd anfon allan i'r byd ddynion a menywod sydd wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer y gwaith ymarferol sydd o'u blaenau, â meddyliau sydd mewn cytgord â'r ddelfryd uchaf, yn agored i ddiddordebau cyfoethog ac amrywiol bywyd modern ac yn ymroddedig i wasanaethu eu cyd-ddynion a menywod.'

Ar ben-blwydd y Brifysgol yn 100 oed yn 2020, cyfeiriodd Siarl, Tywysog Cymru, at eiriau ei hen dad-cu pan roddodd gyfarchiad byr i longyfarch y Brifysgol ar ei chanmlwyddiant.

Cyn 1920, roedd Prifysgol Cymru yn cynnwys tri Choleg arall. Roedd y rhain yn Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd. Roedd yn amlwg bod angen Coleg newydd yn ardal Abertawe, yn benodol i ddiwallu anghenion gwyddonol a thechnolegol yr ardal ddiwydiannol bwysig hon. O ganlyniad, pan agorodd y Brifysgol ym 1920, roedd gwyddoniaeth a pheirianneg yn cael eu haddysgu yn y flwyddyn gyntaf honno, er y dechreuodd pynciau’r celfyddydau’r flwyddyn ganlynol.

Gallwch chi wylio ffilm o’r Seremoni yma. 

Gwahoddad I Seremoni Garreg Sylfaen, 1920

Gwahoddad I Seremoni Garreg Sylfaen, 1920

Rhaglen I Seremoni Garreg Sylfaen, 1920

Rhaglen I Seremoni Garreg Sylfaen, 1920

Gosod Carreg Sylfaen Coleg Prifysgol Abertawe (Prifysgol Abertawe bellach). Paentiad gan Percy Gleaves, 1920-1925

Gosod Carreg Sylfaen Coleg Prifysgol Abertawe (Prifysgol Abertawe bellach)Paentiad gan Percy Gleaves, 1920-1925

Cafodd Carreg Sylfaen y Coleg ei chynnwys yn adeiladwaith adeilad y llyfrgell 1937

Cafodd Carreg Sylfaen y Coleg ei chynnwys yn adeiladwaith adeilad y llyfrgell 1937

Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe