Mae'r traeth ar Gampws y Bae yn arbennig o arwyddocaol i Ahmed Ibrahim. Ar 1 Medi 2017, gwyliodd Ahmed a dau o'i ffrindiau gorau, y gwnaeth gwrdd â nhw wrth gwblhau ei MSc yn Abertawe, yr haul yn machlud a dathlu eu cyfeillgarwch cyn mynd ar eu teithiau gwahanol y diwrnod nesaf.

Mae Ahmed, sydd bellach yn ymgeisydd PhD mewn Peirianneg Gemegol a Biolegol ym Mhrifysgol Drexel yn Philidelphia, yn dal i gofio sut yr helpodd yr olygfa ac awel y môr iddo ymlacio, gan gryfhau ei les seicolegol drwy gydol ei gwrs (y rhagorodd arno).

Ahmed Ibrahim (on the right of the photo) takes a selfie with two of his best friends on Bay Campus beach.

Atgof Ahmed

Fy modryb oedd y cyntaf i fy annog i  feddwl am astudio dramor. Sylwodd fod gennyf y potensial i fynd ymhellach gyda'm hastudiaethau a theimlodd fod gennyf yr egni cywir i herio fy hun. Siaradodd hefyd â'm goruchwylydd graddio a oedd hefyd yn cefnogi’r syniad.

Trafodais pa brifysgolion y byddai'n addas i mi gyda chynghorydd addysgol ac ar sail yr wybodaeth hon, darparodd hi restr fer o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.

Dewisais Abertawe oherwydd ei henw da a'r cyfleusterau gwych ar y campws newydd sbon, Campws y Bae. Roedd fy ngoruchwylydd graddio wrth ei fodd fy mod i wedi dewis mynd i Abertawe!

Prosesodd y Brifysgol y cais yn gyflym iawn a chefais fy nerbyn o fewn 3 diwrnod. Y diwrnod hwnnw, roeddwn i mewn Ffair Prifysgolion yn ôl yn yr Aifft, ac roedd cynrychiolydd o Brifysgol Abertawe yn bresennol. Dangosais i fy llythyr derbyn iddo a chymerodd hunlun gyda fi a'i rannu ar Twitter. Mae e’ gen i o hyd ar fy ngliniadur.

Ahmed Ibrahim at a University Fair in Egypt, stood side by side with a Student Recruitment Officer from Swansea University next to a pull up banner reading

Cymerais i ran yn y gystadleuaeth Placiau Glas Tywyll oherwydd roeddwn i am ail-greu fy atgofion o Abertawe. Roeddwn i wedi bwriadu dod draw yr haf hwn ar gyfer dathliadau'r Canmlwyddiant. Byddaf yn bendant yn gwneud y daith pan fydd modd.

Rwyf bob amser yn dweud wrth bobl am fy amser yn y Brifysgol ac yn aml, byddaf yn derbyn negeseuon gan fyfyrwyr yn yr Aifft sy'n dymuno cael gwybod rhagor am astudio yn Abertawe, felly byddaf yn rhoi'r holl wybodaeth y gallaf.

Rwyf dal mewn cysylltiad â'r ffrind y soniais i amdano yn fy atgof – mae un o'r lluniau a gymeron ni o hyd ar fy mwrdd piniau wrth ymyl fy nesg i'm hatgoffa o’r amseroedd gwych a gawson ni gyda'n gilydd. Rwyf yn eu dilynnhw ar LinkedIn hefyd er mwyn dilyneu gyrfaoedd – a chofio eu pen-blwyddi, sef un o fanteision mwyaf llwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol!  

Ar ôl fy MSc, bu'n rhaid i mi benderfynu rhwng ymgeisio am swyddi a pharhau gydag academia. Roeddwn i'n credu bod gennyf y nodweddion ar gyfer astudio PhD; Rwyf yn hoff iawn o greu gwyddoniaeth, nid yn unig dysgu amdani, felly roedd PhD yn gwneud synnwyr i mi. Siaradais i â'm hymgynghorydd MSc a'm tiwtoriaid yn Abertawe i sicrhau y byddwn i'n gwneud penderfyniad gwybodus.

Yn y dyfodol, hoffwn weithio ym maes diwydiant. Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddeiliaid PhD yn yr UD, yn enwedig ym maes Peirianneg Gemegol. Rwyf hefyd wedi ystyried gwneud cymhwyster ôl-ddoethurol i gyfoethogi fy ngwybodaeth ymchwil yn fy maes i ac mewn disgyblaethau eraill.

Roedd fy mlwyddyn yn Abertawe yn drobwynt pwysig i mi. Dysgais i am sgiliau sy'n hanfodol bwysig sy'n ofynnol er mwyn gwneud gwaith ymchwil, ac rwyf o hyd yn eu defnyddio nawr yn fy ngwaith. Mae gennyf lawer i'w roi yn ôl i Brifysgol Abertawe. Roedd fy amser yno'n amhrisiadwy a does dim geiriau gennyf i'w ddisgrifio, felly rwyf yn hynod ddiolchgar.