Llun pen o James Cronin

Mae Dr James Cronin, sy'n ymchwilydd gyrfa gynnar ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael y cyfle i wneud gwaith ymchwil ynghylch a yw defnyddio nanoronynnau i dargedu celloedd canser yr ofari sy'n gallu gwrthsefyll therapi yn achosi i gelloedd canseraidd farw.  

Meddai Dr Cronin: “Mae canser yr ofari'n achosi'r gyfradd marwolaethau uchaf o blith pob canser sy'n effeithio ar systemau atgenhedlu menywol ledled y byd. Hyd yn oed ar ôl ei drin yn llwyddiannus, mae posibilrwydd uchel y bydd y canser yn dychwelyd o fewn y blynyddoedd nesaf. Os bydd yn dychwelyd, fel arfer ni ellir ei iachau.”  

Bydd ymchwil Dr Cronin yn targedu canser yr ofari sy'n gallu gwrthsefyll therapi drwy ddefnyddio proses o'r enw ferroptosis a achosir gan nanoronynnau haearn, sy'n ymhlygu rôl hanfodol haearn cellol ym marwolaeth celloedd canseraidd.  

Hwyluswyd ymchwil Dr Cronin gan bolisi'r Brifysgol o geisio cyllid sbarduno a'i ddyrannu er mwyn helpu ymchwilwyr gyrfa gynnar talentog sydd am wneud gwaith ymchwil anghyffredin ac arloesol, ac efallai na fyddai eu hymchwil yn bosib fel arall. Mae'r cyllid penodol hwn wedi deillio o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Meddai Dr Cronin: “Rwy'n teimlo'n ddiolchgar iawn bod cyn-ddisgyblion y Brifysgol wedi gweld potensial yr ymchwil hon a'u bod wedi bod yn ddigon hael i'w hariannu.”  

Bydd yr astudiaeth hon yn creu data rhagarweiniol a fydd yn cyfrannu at gyflwyno grant astudiaeth mwy gyda'r nod yn y pen draw o gynhyrchu therapïau newydd i dargedu canser yr ofari sy'n gallu gwrthsefyll cemotherapi.  

Os ydych yn un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol ac os ydych yn awyddus i gefnogi ein hymchwilwyr meddygol arloesol, ewch i yma.