Mae Tata Steel bob amser wedi cefnogi Prifysgol Abertawe yn ei gwaith ac yn ei gweithgareddau allgyrsiol.

Dros y blynyddoedd, mae Tata Steel wedi noddi nifer o ddigwyddiadau gwyddoniaeth a chwaraeon gan y Brifysgol. Hefyd mae Tata wedi benthyg rhai o’i ddeunydd archif i’r Brifysgol sydd bellach ar gael ar gyfer y gymuned ehangach i’w fwynhau.

Noddi digwyddiadau'r brifysgol

Farsity

Farsity Cymru

Roedd Tata Steel yn dymuno ymgysylltu’n fwy â chymuned y myfyrwyr, gan fod tua 90% o’r graddedigion maent yn eu derbyn bob blwyddyn yn dod o Brifysgol Abertawe.

Felly yn 2018, penderfynodd Tata Steel i gymryd rhan yn y twrnamaint Farsity Cymru lle gwnaethant noddi timau rygbi’r dynion a’r menywod, gan gael eu cynnwys ar y crysau a’r hysbysfyrddau, ac yn y lletygarwch ar ôl y digwyddiadau.

Mae Farsity Cymru’n cynnwys timau o ystod eang o chwaraeon yn cystadlu mewn 48 gornest ar gyfer tarianau chwenychedig Farsity Cymru. Ef yw’r ail ddigwyddiad Farsity mwyaf yn y DU y tu ôl i Rydychen a Chaergrawnt, ac fe’i cefnogir gan filoedd o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.

GŴYL WYDDONIAETH ABERTAWE

GŴYL WYDDONIAETH ABERTAWE

Yn 2018 a 2019 gwnaeth Tata Steel noddi Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.

Mae’r Ŵyl Wyddoniaeth yn ddigwyddiad blynyddol sy’n arddangos ymchwil Prifysgol Abertawe sy’n arwain y byd, gan gynnwys dros 40 arddangosyn a gweithgareddau gwyddoniaeth ymarferol, sioeau, trafodaethau a gweithdai.

Gan gynnal dwy arddangosfa, un sy’n ymwneud â gwyddoniaeth (yn defnyddio realiti rhithwir er mwyn mynd â phobl i un o’r ffwrneisi chwydd) a’r llall yn ‘orsaf greadigol’ (yn ymgysylltu â phlant trwy gemau, celf a chrefft), mae Tata Steel wedi defnyddio platfform unigryw’r ŵyl er mwyn mynd â’r wyddoniaeth o’r gweithfeydd dur i’r gymuned ac ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd, yr hen a’r ifanc.

DEUNYDD ARCHIF WEDI’I FENTHYG I BRIFYSGOL ABERTAWE

DEUNYDD ARCHIF WEDI’I FENTHYG I BRIFYSGOL ABERTAWE

Yn 2013 gwnaeth Tata Steel fenthyg rhai o’i ddeunydd archif i Archifau Richard Burton yn y Brifysgol fel rhan o brosiect parhaus yn ceisio hybu hanes diwydiant dur Cymru.

Mae’r casgliad o ddeunydd, sydd ar gael i’r gymuned leol, yn cynnwys gohebiaeth W. F. (Fred) Cartwright, rheolwr cyffredinol Gweithfeydd Abaty Port Talbot s ers eu hagoriad ym 1951.

Ganwyd yn Swydd Northampton, gwnaeth Cartwright ddilyn ei yrfa yn niwydiant dur Cymru ond roedd ei enw yn estyn yn bell y tu hwnt i Gymru, gyda phroffil yn cael ei gyhoeddi yn The New Scientist ym 1959 yn ei ddisgrifio fel 'one of the outstanding engineer-managers in steel'.