Trosolwg Canolfan

Gall gweithgareddau dynol, boed yn alldynnol neu drwy addasu cynefinoedd ac adeiladu isadeiledd, gael effaith ar ymddygiad y pysgod, a all arwain at effeithiau amrywiol ar y broses a gwasanaethau ecosystemau y mae pysgod yn cyfrannu atynt, megis pysgodfeydd ac adfer ar ôl cael eu haflonyddu. Nod fy mhrosiect yw mesur sut y mae addasiadau o ran ymddygiad pysgod yn effeithio ar weithrediad yr ecosystemau riffiau cwrel sy'n agos i'r glannau, a chanlyniadau cynaliadwyedd posib ar gyfer hamdden a physgodfeydd eraill. Byddaf yn cyflawni hyn drwy'r amcanion isod:

1. Nodi pa ymddygiad a reolir gan bobl ymhlith pysgod sy'n arwain at raeadrau troffig ecolegol canlyniadol i gymunedau dyfnforol a physgod;

2. Defnyddio organebau model, ymchwilio i a all ymddygiad gwrthysglyfaethwyr a gwrthbysgodfeydd arwain at ddetholgarwch genetig a chanlyniadau trawgenedliadol neu os yw'r ymateb yn hyblyg yn ffenogyffredinol.

3. Nodi sut gall newidiadau ymddygiad pysgod ddylanwadu ar sut mae pysgotwyr yn ymddwyn a'u gwybodaeth a'u canfyddiad am yr ecosystem.

Mae tri amcan fy ymchwil yn atgyfnerthu ei gilydd, gan sicrhau y bydd allbwn ymchwil yn cael ei gyflawni dros gyfnod fy nghymrodoriaeth. Gellir defnyddio safbwyntiau newydd o ran effaith a chynaliadwyedd ar bysgodfeydd yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd i lywio strategaethau i warchod bywyd morol pwysig a bodloni nodau rhanddeiliaid. Bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu at wella lles amgylcheddol a chymdeithasol Cymru, yn unol â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â chael effaith ar bysgodfeydd trofannol sy'n agos i'r glannau. 

Cyflawnir amcanion fy ymchwil drwy waith maes a physgotai, gan gydweithio ag ymchwilwyr a sefydliadau yng Nghymru a'r Philipinau i ymgymryd ag arolygon ymddygiad yn y dŵr a'r labordy pysgod rhesog yng Nghanolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy Prifysgol Abertawe.