Ar ôl Eich Graddio
Archebu eich USB
Bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu prynu ffotograff wedi’i argraffu o’u hamser ar y llwyfan gyda’r Canghellor neu’r Is-ganghellor ar ddiwrnod eu seremoni, ynghyd â gof bach (fformat HD) o’r seremoni gyfan.
Gallwch chi brynu’r rhain yn bersonol ar eich diwrnod graddio yn yr arena, neu drwy e-bostio gradsales@abertawe.ac.uk neu ffonio 01792 987097. Sylwch y bydd angen talu â cherdyn yn unig. Os ydych chi’n casglu’n bersonol caiff ffi o 5c ar gyfer bag ei hychwanegu a chaiff yr elw ei roi i Gymorth Canser Macmillan.
Os ydych wedi cyflwyno archeb ar gyfer llun ar y llwyfan neu USB ac ni allwch ddod i gasglu hyn eich hun, sylwer y bydd y ffioedd postio canlynol yn berthnasol (post yn y DU yn unig - caiff yr holl eitemau eu hanfon drwy bost dosbarth cyntaf):
Pecyn Graddio: £3.85
Llun ar y Llwyfan £3.85
USB: 85c
Cynnyrch | Pris | Postio |
---|---|---|
Ffoto wedi printio 10" x 8" (chi yn ysgwyd llaw gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor ar y llwyfan) |
£20 |
£3 yn y DU £5 dramor
|
Ffon USB (ffilm mewn diffiniad uchel o'r holl gynulliad) |
£25 | |
Pecyn Graddio (Ffoto wedi printio, Ffon USB gyda copi digidol o'r ffoto a'r holl cynulliad mewn diffiniad uchel) |
£40 |
Rhowch y gwybodaeth canlynol pan rydych yn archebu:
Enw a Rhif Myfyriwr
Amser a Dyddiad y Cynulliad
Cyfeiriad Post
Nifer o copïau
Archebu eich Lluniau
Gweler isod yr eitemau sydd ar gael a sut i'w harchebu:
Llun 10 x 8 wedi ei argraffu ohonoch ar y llwyfan gyda'r Canghellor/Is-Ganghellor. Mae hwn yn costio £15 a gellir prynu copi drwy gysylltu â gradsales@swansea.ac.uk / 01792 987097
Llun swyddogol. Mae costau'n amrywio yn dibynnu ar y pecyn a ddewisir. Gweler y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth Ede and Ravenscroft Gellir prynu'r llun swyddogol gan Ede & Ravenscroft drwy gysylltu â photography@edeandravenscroft.com / 0870 2421170
Tystysgrif eich Dyfarniad
Tystysgrif eich Dyfarniad
Gan ddibynnu ar pryd y cafodd eich dyfarniad ei gadarnhau, efallai eich bod eisoes wedi derbyn eich tystysgrif gradd drwy’r post. Ar gyfer myfyrwyr dyfarniad y mae eu canlyniadau’n cael eu hystyried erbyn bwrdd arholi mis Tachwedd, bydd eich tystysgrif gradd yn cael ei phostio i’ch cyfeiriad cartref ym mis Ionawr 2024.
Os oes angen Trawsgrifiad academaidd arnoch cysylltwch a myunihub@abertawe.ac.uk
Polisi Cyffuriau Anghyfreithlon
Cyn-fyfyrwyr
Croeso i rwydwaith y cyn-fyfyrwyr
COFIA, UNWAITH Y BYDDI DI'N GRADDIO NID DYMA DDIWEDD DY GYSYLLTIAD AG ABERTAWE!
Fel myfyriwr graddedig Prifysgol Abertawe, rwyt ti mewn cwmni da, yn ymuno â rhwydwaith sy'n tyfu drwy'r amser o fwy na 165,000 o gyn-fyfyrwyr sydd yn barod i dy gefnogi di!
Mae llawer o fanteision i fod yn aelod o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, a byddwn yn rhoi'r diweddaraf i ti drwy gylchlythyron rheolaidd, gwahoddiadau i ddigwyddiadau ac aduniadau.
Gwna'n siŵr dy fod yn ymuno â Chysylltu Prifysgol Abertawe, dy blatfform rhwydweithio personol a phroffesiynol lle cei di ddod o hyd i ffrindiau a chael ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol i dy helpu ar bob cam o dy daith.
Cofia, pan fyddi di'n graddio, caiff dy gyfeiriad e-bost gan Brifysgol Abertawe ei ddileu. Gwna'n siŵr dy fod yn diweddaru dy fanylion cyswllt er mwyn cadw mewn cysylltiad.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer graddedigion newydd ar ein gwefan yn swansea.ac.uk/alumni/new-graduates, neu gelli di anfon e-bost atom yn alumni@abertawe.ac.uk. Byddem yn dwlu clywed gennyt.
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
ACADEMI CYFLOGADWYEDD ABERTAWE
Nawr eich bod wedi graddio, mae galw mawr am eich sgiliau gan ystod eang o gyflogwyr. Ond mae llywio eich ffordd drwy'r broses recriwtio'n gallu bod yn brofiad llawn straen. Os ydych yn cael trafferth gyda'ch cam nesaf, a hoffech gael cymorth i nodi eich sgiliau neu nad ydych yn gwybod ble i ddechrau chwilio am rôl i raddedigion, mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) yma i helpu!
Mae gennym ystod eang o gymorth ac adnoddau ar gael ar ein tudalennau gwe Academi Cyflogadwyedd Abertawe gan gynnwys:
Bwrdd Swyddi'r Parth Cyflogaeth
Mae ein bwrdd swyddi digidol, Parth Cyflogaeth, ar gael i holl raddedigion Prifysgol Abertawe. Gallwch gael mynediad a chyflwyno cais am Swyddi ac Interniaethau unigryw i Raddedigion. Mae Bwrdd Swyddi'r Parth Cyflogaeth hefyd yn cynnwys cyfleoedd a hysbysebir yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
*Os ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth fel myfyriwr, peidiwch ag anghofio addasu eich cyfeiriad e-bost gan eich bod bellach wedi graddio. Gallwch wneud hyn yn ‘Account Settings’. Os nad ydych wedi mewngofnodi o'r blaen, gallwch gofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr.
Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion
Cwrs ar-lein wedi'i deilwra ar gyfer graddedigion Prifysgol Abertawe, a gydnabuwyd yn genedlaethol am ei arloesedd. Gyda sawl uned unigol ar gael, gallwch ddewis a dethol unedau lle y mae angen cymorth ac arweiniad arnoch, gan gynnwys:
- Llunio CV, llythyr eglurhaol a phroffil LinkedIn gwych
- Cwblhau ffurflenni cais a datganiad personol yn llwyddiannus
- Cyfweliad Campus
- Deallusrwydd emosiynol
- Gwneud penderfyniadau
- Gwytnwch
- Meddylfryd
Mae'r Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion yn cael ei gyflwyno'n llwyr ar-lein ac mae'n arbennig o hyblyg a gallwch ei wneud ar eich cyflymder eich hun.
Dim traethodau. Dim arholiadau. Cwblhewch y modiwlau sydd o ddiddordeb i chi. Rhowch gynnig ar y cwisiau ar ddiwedd pob uned i ganfod pa mor dda rydych wedi deall y pwnc ac a oes eisiau ailymweld ag unrhyw un ohonynt. Cofrestrwch eich diddordeb yma i gael y ddolen
Apwyntiadau a Chyngor Gyrfaoedd
Mae cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd AM DDIM ar gael i raddedigion Prifysgol Abertawe am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio! Rydym yn cynnig cymorth drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, Zoom neu e-bost.
Rydym yma i:
- Gynnig cyngor ar sut i wella eich ceisiadau am swyddi
- Rhoi hyfforddiant cyfweliad i chi wella eich dulliau cyfweliad
- Cynghori ar astudiaethau ôl-raddedig ac ariannu
- Helpu i archwilio eich opsiynau a llunio cynllun gweithredu
Trefnu apwyntiad yn uniongyrchol
Rhaglen Cymorth i Raddedigion
Mae gennym raglen gymorth ar gael i'r holl raddedigion diweddar drwy ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion. Mae'r cymorth yn cynnwys mynediad i adnoddau wedi'u teilwra, interniaethau, hyfforddiant a digwyddiadau i'ch helpu i lwyddo yn y byd gwaith.
Cwblhewch ein Ffurflen Diddordeb mewn Rhaglen Cymorth i Raddedigion er mwyn i ni gadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i chi yr hyn sydd ar gael.
Mae ein graddau yn agor drysau, helpwch ni i brofi hynny!
Tua 15 mis ar ôl i chi raddio, gofynnir i chi gwblhau arolwg Hynt Graddedigion byr ac anhysbys sy'n gofyn a ydych yn gweithio, yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n gwneud rhywbeth arall.
Defnyddir ystadegau swyddogol Hynt Graddedigion mewn tablau cynghrair ac arweiniadau. Os bydd Abertawe'n gwneud yn dda unwaith eto, mae'n adlewyrchu'n dda ar ein graddedigion – sef chi.
Mae'r data yn ein galluogi i graffu ar y farchnad swyddi hefyd, felly byddech yn helpu'r myfyrwyr a fydd yn dilyn ôl eich troed.
Cysylltwch â ni
Oes gennych gwestiynau eraill? Mae croeso i chi anfon e-bost atom yn employmentzone@abertawe.ac.uk