Rydyn ni'n gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion a phartneriaid cymunedol ar draws De-orllewin Cymru i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu fydd yn ysbrydoli oedolion a theuluoedd, ac yn gallu gweithredu fel cerrig camu at addysg bellach ac uwch.

Adborth gan gyfranogwyr a rhanddeiliaid:

'Diolch o galon i chi am heddiw. Mae'n gyfle mor wych cael bod yn rhan o hyn... mae'n grymuso i'r fath raddau' - Oedolyn sy'n Dysgu

'Mae'r cwrs a'r hyfforddwyr yn gwbl wych... fe ddysgais i gymaint ganddyn nhw' – Oedolyn sy'n Dysgu

'Mae'r cyrsiau meithrin hyder mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru yn eu darparu wedi bod yn garreg camu at adferiad i'r benywod fu'n eu mynychu. Mae'r cyrsiau wedi'u galluogi i gredu ynddynt eu hunain a theimlo bod ganddyn nhw'r gallu a'r sgiliau i symud ymlaen i astudiaethau pellach a chyflogaeth.' Gweithiwr Cefnogi Cymorth i Fenywod Abertawe

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â