Mae tonnau sain yn mynd i mewn i'r glust allanol ac yn achosi i ddrwm y glust ddirgrynu. Mae'r dirgryniadau hyn yn mynd ar hyd y glust ganol trwy dri asgwrn bach a elwir yn esgyrnynnau. Mae'r esgyrnynnau’n mwyhau'r dirgryniadau ac yn eu trosglwyddo i cochlea (tiwb troellog wedi'i lenwi â hylif) yn y glust fewnol. Mae celloedd gwallt yn y cochlea yn symud mewn ymateb i'r dirgryniadau ac yn anfon signalau trydanol ar hyd y nerf glywedol i'r ymennydd.

Colli clyw

  • Mae colli clyw yn broblem gyffredin ac amcangyfrifir bod mwy na 10 miliwn o bobl (1 o bob 6) yn y DU gyda rhywfaint o golled clyw. Mae'n aml yn datblygu gydag oedran ond gall gael ei achosi gan amlygiad i synau uchel ail-adroddus, heintiau'r glust, salwch a thrawma. Gall colli clyw ddigwydd yn sydyn ond fel arfer mae'n datblygu'n raddol. Gall arwyddion o golli clyw gynnwys: anhawster clywed yn glir ac yn camddeall ymadroddion, gofyn am lawnder, gwrando ar gerddoriaeth neu wylio teledu gyda'r sain yn uwch nag sydd ei angen ar bobl eraill.
  • Mae colli clyw yn ganlyniad i seiniau ddim yn cyrraedd yr ymennydd. Mae dau brif fath o golled clyw, yn dibynnu ar ble mae'r broblem.
  • Colli clyw dargludol: pan na all seiniau drosglwyddo o'r glust allanol neu ganol i'r glust fewnol. Gall hyn fod oherwydd rhwystr oherwydd cwyr, gorlenwad neu ddrwm clust tyllog neu anhwylder yr esgyrnynnau.
  • Colli clyw synhwyraidd: wedi'i achosi gan ddifrod i'r celloedd gwallt y tu mewn i'r cochea neu ddifrod i'r nerf glywedol. Gall hyn ddigwydd yn naturiol gydag oedran neu o ganlyniad i anaf.
  • Colli clyw cymysg: Cyfuniad o elfen ddargludol a synhwyraidd.
  • Colli clyw canolog: Cyflwr sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i brosesu gwybodaeth glywedol.

 

Trin colled clyw

Caiff colled clyw ei drin yn dibynnu ar yr achos sylfaenol y cyflwr. Mae colled clyw oherwydd problem ddargludol yn fynych dros dro a gellir ei drin. Er enghraifft, gellir waredu cwyr clust trwy ddiferion, chwistrell neu ficrosugno. Gellir trin colled clyw a achosir gan heintiau â gwrthfiotigau. Gall llawdriniaeth fod yn opsiwn i ddraenio hylif sy'n cronni, trwsio tyllau neu gywiro problemau gyda'r esgyrnynnau.

Fodd bynnag, mae colled clyw synhwyraidd yn barhaol ac mae nifer o opsiynau gan gynnwys teclynnau clyw, mewnblaniadau a defnyddio darllen gwefusau a / neu iaith arwyddion.