Cynhadledd Undydd: 10 Mawrth 2021
Cynhelir cynhadledd gan Brifysgol Abertawe i ystyried sefyllfa’r Gymraeg yn sgil COVID-19 yng nghwmni Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts. Nod y gynhadledd fydd bwrw golwg ar effaith y pandemig ar draws amrywiol agweddau o fywyd a gwaith yng nghyd-destun y Gymraeg, gan gynnwys addysg, technoleg, gwaith cymunedol a gweithleoedd.
Ymhlith y siaradwyr eraill fydd:
- Helen Mary Jones AS, Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd
- Helen Prosser a Dona Lewis, Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
- Dr Simon Brooks, Prifysgol Abertawe
- Lisa Walters, Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin
- Heini Gruffudd, Dyfodol yr Iaith
- Lowri Jones, Mentrau Iaith Cymru
- Euros Lewis, Prosiect Fory
- Elin Maher, RHAG
Y gobaith yw adnabod patrymau, datrysiadau neu arferion da all gyfrannu at gefnogi siaradwyr Cymraeg yn ystod y cyfnod heriol hwn, ond hefyd gymryd camau i warchod yr iaith yn yr hir dymor wrth i’r pandemig fynd rhagddo a’i effeithiau barhau.
Cynhelir y gynhadledd ar Zoom. Traddodir y papurau yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.