LLun o Beti George ac Elin Rhys

Beti George ac Elin Rhys yn rhannu eu profiadau

Ar 11 Mawrth, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2021 Prifysgol Abertawe, fe fu dwy o gyfeillion mawr Academi Hywel Teifi, y ddarlledwraig Beti George a’r pennaeth cwmni cyfryngau, Elin Rhys yn rhannu eu profiadau o'r heriau sydd wedi eu hwynebu ym maes y cyfryngau gyda Dr Gwenno Ffrancon, arbenigwr ar hanes y cyfryngau a chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi.

Dechreuodd Beti George ar ei gyrfa ddarlledu dros hanner canrif o hyd yn Abertawe, fel gohebydd i'r rhaglen newyddion BBC Cymru 'Bore Da'. Ers hynny mae hi wedi cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni i deledu a radio gan lwyddo cyrraedd y brig mewn byd ble arferai dynion ddal awenau grym, a gorfod brwydro am gyflog cyfartal ar hyd y ffordd. Mae Beti hefyd yn adnabyddus am ei gwaith yn ymgyrchu dros ddioddefwyr clefyd Alzheimer.

Yn gyn-fyfyriwr ac yn gymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe, bu Elin Rhys yn gweithio fel gwyddonydd gydag Awdurdod Dŵr Cymru cyn iddi ddechrau gyrfa fel cyflwynydd teledu gyda HTV ac S4C yn yr wythdegau. Ym 1993, sefydlodd Telesgop, ei chwmni teledu ei hun sydd a'i bencadlys yn Abertawe, er mwyn poblogeiddio gwyddoniaeth yn y cyfryngau.

 

Gwyliwch recordiad o sgwrs 'Merched yn Bennaf' yma