Cyswllt ysgolion

Mae gan Academi Hywel Teifi swyddog sy’n gyfrifol am gyswllt ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rydym yn trefnu dyddiau blasu ar eu cyfer sy’n cynnwys sesiynau ar amrywiaeth o bynciau sydd gan y Brifysgol i’w cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae’r sesiynau blasu hyn yn gallu amrywio o Ieithoedd Modern a Hanes er enghraifft i sesiwn ymarferol ym maes Sŵoleg neu Feddygaeth. Rydym hefyd yn cynnig dyddiau adolygu ar gyfer pwnc penodol. Yn y gorffennol mae digwyddiadau’r Adran Gymraeg ar gyfer Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol wedi canolbwyntio’n benodol ar y cwricwlwm sydd o fudd enfawr i’r disgyblion ac yn wir, yr athrawon hefyd.

Bagloriaeth Cymru

Llynedd cynhaliwyd diwrnod ar Fagloriaeth Cymru i ddisgyblion blwyddyn 12 ac 13 ar Gampws y Bae.  Mae’r Fagloriaeth bellach yn rhan statudol o’r cwricwlwm cenedlaethol a’i bwriad yw dwyshau profiadau a sgiliau disgyblion wrth iddynt astudio lefel A.  Trefnwyd y digwyddiad mewn cydweithrediad agos â CBAC er mwyn sicrhau bod cynnwys y diwrnod yn fuddiol i ddisgyblion ac athrawon o ran gofynion y cwricwlwm cenedlaethol. 

Yn sgil llwyddiant y digwyddiad, mae tîm Allgymorth Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awyddus i gydweithio pellach i gynnal digwyddiadau tebyg. 

Os oes gennych chi ddiddordeb i gysylltu â ni i drefnu dyddiau blasu cyfrwng Cymraeg, cysylltwch â;

Saran Thomas, Swyddog Datblygu
Ebost: Saran.G.Thomas@abertawe.ac.uk
Ffôn: 01792 602912