Sefydlwyd Canolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru (WELMERC) yn 2002 yn sgil cyllid gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, gyda'r nod o roi cyngor seiliedig ar dystiolaeth ar bolisi economaidd.

Prif amcanion WELMERC yw: 

  • Dadansoddi tueddiadau mewn data economaidd sy'n berthnasol i Farchnad Lafur Cymru, fel proffiliau poblogaeth, llifoedd mudo, sgiliau a chymwysterau, anweithgarwch, cyflogaeth, enillion, cyfraddau twf CMC a gwybodaeth fusnes, a pharatoi adroddiadau arnynt;
  • Dadansoddi setiau data newydd a phresennol, gan gynnwys hwb Cymru i'r Arolwg o'r Llafurlu ac Arolwg Panel Cartrefi Prydain er mwyn llywio polisïau mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant, enillion, diweithdra ac anweithgarwch, gwahaniaethu yn y farchnad lafur a chynhwysiant cymdeithasol;
  • Cyflawni dadansoddiadau gwerthuso o wariant polisi'r UE yng Nghymru;
  • Dylanwadu ar y cyd-destun a'r dadleuon sy'n llywio'r broses o lunio polisi economaidd, yn enwedig ym meysydd cyflogaeth a chyflogau yng Nghymru, y DU ac Ewrop.

Mae'n cael cymorth ariannol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i ariannu canolfan ymchwil Cymdeithas Sifil.

Lluniodd WELMERC ddwy astudiaeth achos ar gyfer REF 2014 ac mae wedi paratoi dros 50 o adroddiadau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys rhwystrau sy'n arwain at ddiweithdra; cyfraddau dychwelyd i addysg; dysgu gydol oes; gwahanu'r rhywiau; y bwlch cyflog rhwng y rhywiau; isafswm cyflog; anabledd; cyflog yn y sector cyhoeddus; anghydraddoldebau rhanbarthol; FDI (Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor); Cyflog Byw; llesiant; a gwahaniaethau rhanbarthol mewn iechyd plant. Er bod llawer o'r gwaith ymchwil a wneir gan WELMERC yn canolbwyntio'n bennaf ar Gymru a'r DU, mae gwaith ymchwil hefyd wedi cael ei wneud ar ran CEDEFOP (Canolfan Datblygu Hyfforddiant Galwedigaethol Ewrop) ar yr anghysondeb o ran sgiliau ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Mae WELMERC wedi gweithio, ac mae'n parhau i weithio, gyda sefydliadau allanol ar faterion yn ymwneud â'r farchnad lafur a llafur rhanbarthol ac Economi Cymru.

Partneriaid cydweithredol

Mae'r rhan fwyaf o waith WELMERC wedi cael ei ymgorffori yn Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD). Cydweithrediad rhwng Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Abertawe yw'r Sefydliad.

Yr Athro Nigel O'Leary

- Cyfarwyddwr

male smiling