Beth yw camymddygiad mewn ymchwil?

Mae Cyngor Ymchwil y DU yn diffinio camymddygiad mewn ymchwil fel anwiredd, ffugiad, llên-ladrad neu wyriad difrifol arall o arferion ymchwil a dderbynnir yn gyffredinol at ddiben cynnig, cyflawni, adolygu neu adrodd am ganlyniadau ymchwil.

  • Anwiredd yw ffugio data neu ganlyniadau a'u cofnodi neu adrodd amdanynt.
  • Ffugiad yw cam-ddefnyddio deunydd, cyfarpar neu brosesau ymchwil, neu newid neu hepgor data neu ganlyniadau fel na chaiff yr ymchwil ei adlewyrchu'n gywir yng nghofnod yr ymchwil.
  • Llên-ladrad yw defnyddio syniadau, prosesau, canlyniadau neu eiriau rhywun arall heb eu cydnabod yn briodol.
  • Gallai gwyriadau difrifol eraill gynnwys:
    • Camliwio data a/neu ddiddordebau a/neu gyfranogiad;
    • Methu dilyn gweithdrefnau a dderbynnir, neu fethu gofalu wrth gyflwyno cyfrifoldebau am:
      • Osgoi risg neu niwed afresymol i bobl, anifeiliaid neu'r amgylchedd;
      • trin yn gywir wybodaeth freintiol neu breifat am unigolion a gesglir yn ystod yr ymchwil

Sut I Godi Pryder

Ymdrinnir ag ymholiadau a phryderon ynghylch camymddygiad mewn ymchwil ar lefel sefydliadol. Mae ein gweithdrefn i drin cyhuddiadau fel hynny wedi cael ei datblygu yn unol ag arweiniad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Uniondeb Ymchwil y DU.

Gall staff, myfyrwyr neu unigolion neu sefydliadau allanol sydd am godi pryder ynghylch uniondeb ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe wneud hynny, yn ysgrifenedig yn ddelfrydol, gyda chymaint o dystiolaeth ategol â phosibl, drwy gysylltu â'r Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu neu'r Rheolwr Uniondeb Ymchwil drwy'r mewnflwch penodol ar gyfer camymddygiad mewn ymchwil.

Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu: Mr Andrew Rhodes

Rheolwr Uniondeb Ymchwil: Mrs Anjana Choudhuri

Mewnflwch Penodol ar gyfer Camymddygiad mewn Ymchwil: researchmisconduct@abertawe.ac.uk