Un o brif ddigwyddiadau calendr cyfraith fasnachol India, cynhelir Ymryson Rhyngwladol ar Gyflafareddu Morwrol Prifysgol Genedlaethol y Gyfraith Odisha a Bose & Mitra Co.  yn flynyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol y Gyfraith, yn ninas masnachu hynafol Cuttack yn nhalaith Odisha.

Dyma’r  degfed tro i’r digwyddiad gael ei gynnal, ac fe’i noddir yn hael gan gwmni Bose & Mitra & Co o Mumbai, y cwmni cyfraith forwrol mwyaf blaenllaw yn India (ac un o'r rhai hynaf), a'r dewis cyntaf i gwmnïau cyfreithiol a chlybiau amddiffyn ac indemnio gorau'r DU pan fydd angen cyngor cyflym, arbenigol a phenodol ar bob agwedd ar gyfraith forwrol India.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol Prifysgol Abertawe (IISTL) wedi bod yn falch o fod yn rhan o'r Ymryson fel Partner Strategol. Defnyddiodd yr IISTL ei arbenigedd academaidd wrth drefnu'r pwnc, gosod  problem yr ymryson, a chynorthwyo gyda’r beirniadu.

Yn draddodiadol, mae'r gystadleuaeth wedi cynnwys cyflafareddu realistig ar ryw agwedd bwysig ar gyfraith fasnachol, cludiant neu fasnach. Nid oedd eleni'n eithriad, ac fe archwiliwyd materion manwl cyfraith cyflafareddu a chyfraith contractau mewn perthynas â chost, yswiriant a chludiant.

Fel o'r blaen, bu cynrychiolwyr y Sefydliad, sef yr Athro Simon Baughen, yr Athro George Leloudas a’r Athro Andrew Tettenborn yn chwarae rôl bwysig wrth osod a beirniadu'r broblem. Roedd yn anrhydedd mawr i'r Athro Tettenborn gael ei wahodd i helpu i feirniadu rownd derfynol y digwyddiad yn nhalaith Odisha, gan eistedd ar y fainc gyda chyfreithwyr nodedig, gan gynnwys eiriolwr blaenllaw o Uchel Lys Bombay, Ustus o Uchel Lys Odisha a phartner rheoli Bose & Mitra, Amitava Majumdar.

Mae’r IISTL yn falch iawn o'i gysylltiad parhaus â'r digwyddiad hwn. Mae'n un o brif amcanion y Sefydliad i gyfrannu at ddatblygiad y genhedlaeth newydd o gyfreithwyr morwrol ar lefel genedlaethol ac yn fyd-eang.

Estynnwn ein llongyfarchiadau i Dr Ram Lohia o Brifysgol Genedlaethol y Gyfraith, Lucknow am arwain y tîm buddugol, a hefyd i Goleg y Gyfraith ILS yn Pune am ddod yn ail agos. Rydym yn ddiolchgar hefyd i Brifysgol Genedlaethol y Gyfraith, a'i His-ganghellor, yr Athro Ved Kumari, a'r Cofrestrydd, yr Athro Dr Rangin Tripathi, am eu cefnogaeth barhaus, a'u croeso cynnes i'r Athro Tettenborn. Ni allwn ychwaith fethu â sôn am ymdrechion di-flino y myfyrwyr a wnaeth y gwaith trefnu, gan sicrhau bod popeth yn rhedeg yn hwylus iawn.

Rhannu'r stori