Bu'r Athro Soyer a'r Athro Cysylltiol Leloudas yn rhoi cyflwyniad i ymgynghorwyr polisi, ymchwilwyr a gweision sifil sy'n gweithio yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar 13 Mai.

Roedd eu cyflwyniad yn esbonio canlyniadau eu prosiect ymchwil a gwblhawyd yn ddiweddar ar "The Role of Insurance in Tackling Illegal, Unreported and Unregulated (IUU) Fishing” a noddir gan Waterloo Foundation.

Mae'r astudiaeth empirig, gyda chymorth Dr Dana Miller (Prifysgol British Columbia gynt, Oceana Europe yn awr), yn argymell, er mwyn atal pysgota IUU, y dylid cyfyngu ar fynediad at yswiriant i'r rhai sy'n rhan o hyn.

Mae'r astudiaeth eisoes wedi cyfrannu at ddatblygu “Datganiad y Diwydiant Yswirio yn erbyn Pysgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig na Hysbysir Amdano”, wedi'i gyd-noddi gan yswirwyr megis Allianz AGCS, AXA, Hanseatic Underwriters, Generali a The Shipowners' Club.

Serch hynny, argymhellir yn yr astudiaeth mai’r ymagwedd fwyaf effeithiol at broblem pysgota IUU fyddai diwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, neu ddeddfwriaeth ddomestig bellach, a rhoi rhwymedigaeth glir a phositif ar ddarparwyr yswiriant atebolrwydd i wrthod yswiriant i'r rhai sy'n rhan o bysgota IUU. Yn dilyn BREXIT, mae DEFRA wrthi'n ystyried a oes angen cymryd camau gweithredu pellach yn y maes hwn.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer a'r Athro Cysylltiol Leloudas:

"Nod y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yw cymryd rhan mewn ymchwil sy'n gallu llywio prosesau llunio polisïau.  Rydym yn ddiolchgar i Waterloo Foundation am roi'r cyfle a'r cymorth ariannol i ni ac i DEFRA (Joanna Stapley yn benodol, Ymgynghorydd Polisi) am y gwahoddiad. Rydym mawr yn gobeithio y bydd ein casgliadau'n helpu llywodraeth y DU i lunio fframwaith rheoleiddiol yn y maes hwn yn y dyfodol."    

Rhannu'r stori