Gwnaeth Shina Aminashaun sy’n fargyfreithiwr yn Garden Court Chambers ac yn gyn-fyfyriwr Ysgol y Gyfraith, ddychwelyd i chwarae rhan allweddol mewn ffug wrandawiad derbynioldeb ynghylch tystiolaeth o ffynhonnell agored, a gynhaliwyd gan yr Athro Yvonne McDermott Rees, yn Ysgol y Gyfraith, ar 19 Chwefror 2021.

Graddiodd Shina o Ysgol y Gyfraith yn 2014, gydag anrhydeddau dosbarth cyntaf, ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i sefydlu gyrfa lwyddiannus yn fargyfreithiwr, gan ymarfer ar draws sbectrwm trosedd cyffredinol a rhyngwladol.

Bu’n rhan o raglen ddogfen ddiweddar gan Channel 4, fel rhan o’i Fis Hanes Pobl Dduon, ac mae’n destun fideo, ‘Young Black Barrister’, sy’n canolbwyntio ar ei brofiadau; gan gynnwys gweithio gyda’r Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia a chynghori’r llywodraeth ynghylch allgludo. Hefyd, mae’n siarad am ei obaith am ddyfodol disglair, yn gweithio mewn system gyfreithiol amrywiol sy’n cynrychioli pob cefndir.

Gwnaeth Shina ddychwelyd i Ysgol y Gyfraith er mwyn gweithio yn ei rôl broffesiynol yn fargyfreithiwr, mewn ffug dreial, a allai lywio sut caiff gwybodaeth ddigidol o ffynonellau agored ei defnyddio mewn gweithrediadau troseddol yn y dyfodol. Ymunodd ag Ysgol y Gyfraith fel rhan o banel o arbenigwyr cyfreithiol, a oedd yn cynnwys:

  • H. y Barnwr Joanna Korner CMG CF
  • Andrew Cayley CF, Temple Garden Chambers
  • Helen Malcolm CF, Three Raymond Buildings
  • Shina Animashaun, Garden Court Chambers
  • Joshua Kern, 9 Bedford Row

Ar y cyd, gwnaethant gynnal ffug wrandawiad a archwiliodd dderbynioldeb darn o dystiolaeth gan ffynhonnell agored ar-lein o’r gwrthdaro yn Yemen, gan brofi methodoleg GLAN a Bellingcat. Fel rhan o gymryd rhan yn y gwrandawiad, mae Shina hefyd wedi gweithio’n agos gyda phum o’n myfyrwyr Tystiolaeth Droseddol sydd wedi darparu cymorth ymchwil ardderchog i’r cyfreithwyr sydd wedi bod yn gweithio ar y gwrandawiad.

Meddai Shina wrth ddychwelyd i Ysgol y Gyfraith a gweithio gyda myfyrwyr presennol:

“Mae cydweithio ag Ysgol y Gyfraith wedi sbarduno teimladau o hiraeth. Ysgol y gyfraith hon a wnaeth feithrin fy nealltwriaeth o’r gyfraith i raddau helaeth, a dyma’r achos yn glir o ran y myfyrwyr hefyd. Roedden nhw wedi paratoi’n dda iawn ond hefyd roedden nhw’n greadigol yn eu hymagwedd. Rwy’n ddiolchgar mai’r prosiect pwysig hwn sydd wedi dod â ni’n ôl at ein gilydd.”

Wrth siarad am gael cyfle i gymryd rhan yn y prosiect, dywedodd y fyfyrwraig Rhiannon:

“Roedd gallu bod yn rhan o’r prosiect hwn yn brofiad gwych ar sawl lefel: Ces i gyfle i ddysgu rhagor am faes newydd yn y gyfraith, gwella fy sgiliau ymchwil gyfreithiol a gweithio gyda bargyfreithwyr hynod dalentog. Roedd y maes pwnc yn ddiddorol dros ben hefyd, ac mae’n wych gweld bod datblygiadau ar y gweill yn y maes hwn, a gobeithio y bydd modd defnyddio’r rhain at ddiben cyfiawnder troseddol rhyngwladol. Fel myfyrwraig israddedig presennol, mae gweld un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Abertawe fel Shina yn gwneud mor dda wir yn ysbrydoli, ac mae’n fy ysgogi ymhellach i ddilyn fy nodau.”

Rhannu'r stori