Mae Amnesty International wedi lansio ei Hyb Troseddau Corfforaethol newydd, sef adnodd i gynorthwyo wrth ymchwilio i droseddwyr corfforaethol a’u herlyn drwy ddarparu ystod o offer i oresgyn rhai o'r prif heriau wrth greu achosion troseddol. 

Mae'r Hyb yn rhan o'r Prosiect Troseddau Corfforaethol, a gaiff ei reoli gan y Tîm Busnes, Diogelwch a Hawliau Dynol yn Amnesty International a'i nod yw atal cam-drin hawliau dynol drwy brofi atebolrwydd cwmnïau os ydynt yn achosi neu'n cyfrannu at gamdriniaeth o'r fath. 

Mae'r Prosiect wedi gweithio'n agos gyda rhwydwaith o gyrff anllywodraethol o bedwar ban byd, cyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned gorfodi'r gyfraith, arbenigwyr academaidd ym maes atebolrwydd corfforaethol ac eraill sy'n ymwneud â'r gwaith o erlyn ac ymchwilio i droseddau corfforaethol sy'n gysylltiedig â thorri hawliau dynol.

Gwnaeth myfyrwyr ôl-raddedig o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, ar y cyd â myfyrwyr o Labordy Hawliau Dynol Prifysgol Minnesota a Chlinig Hawliau Dynol Rhyngwladol Lowenstein yn Ysgol y Gyfraith Yale, ymchwil gyfreithiol ar gyfer y prosiect hwn. Gwnaethant ymchwil ar gyfraith achosion a darpariaethau deddfwriaethol o ledled y byd y gellid eu defnyddio wrth brofi bod corfforaethau'n atebol am dorri hawliau dynol.   

Wrth siarad am gymryd rhan yn y prosiect, meddai Adam Whitter-Jones, myfyriwr ar ein rhaglen LLM mewn Hawliau Dynol:

Roedd yn brosiect diddorol iawn i fod yn rhan ohono.  Mae gweithio gyda myfyrwyr eraill a chorff anllywodraethol uchel ei barch wedi rhoi profiad ymchwil i ni i gyd ac mae wedi agor ein llygaid i'r gwaith a wneir, a'r troseddau y gallai cwmnïau fod wedi cyflawni, ac yn aml rhai y maent wedi'u cyflawni. Mae'r prosiect wedi rhoi dealltwriaeth well i ni o sut mae corfforaethau'n gweithio ar draws sawl awdurdodaeth, a sut y gellir profi eu bod yn atebol mewn un awdurdodaeth am dorri hawliau dynol mewn awdurdodaeth arall. 

Wrth siarad am waith myfyrwyr ôl-raddedig Ysgol y Gyfraith, meddai'r Athro Yvonne McDermott Rees:

Gwnaeth Adam, Felicity ac Otgontuya waith gwych wrth ymchwilio i faes cymhleth a heriol yn y gyfraith ar gyfer y prosiect pwysig hwn. Mae'r Hyb Troseddau Corfforaethol yn adnodd anhygoel ar gyfer y rhai sy'n ceisio profi atebolrwydd am droseddau corfforaethol, a phleser o'r mwyaf inni oedd cymryd rhan yn y gwaith o'i ddatblygu.  

Rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Rhannu'r stori