Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn rhan o'r drafodaeth am gymhwyso technolegau sy'n dod i'r amlwg yng nghyfraith morgludiant a masnach.

Yn ddiweddar, cafodd tri uwch aelod, yr Athrawon Soyer a Tettenborn a'r Athro Cysylltiol Leloudas, ddyfarniad grant gan y Rhaglen Sicrhau Awtonomi Ryngwladol (AAIP) i ystyried heriau rheoleiddio sy'n ymwneud â morgludiant a reolir o bell ac awtonomaidd, ac i adrodd amdano ar ddiwedd y flwyddyn. 

Wrth ymgymryd â’r olrhain y prosiect hwn, bu IISTL yn cydweithio ag AAIP i gynnal gweithdy i arbenigwyr ar forgludiant a reolir o bell ac awtonomaidd er mwyn dod â rhanddeiliaid a rheoleiddwyr ynghyd.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu rheoleiddwyr hollbwysig megis yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau ac Awdurdod Morwrol Denmarc, ond arbenigwyr hefyd o amrywiaeth helaeth o sefydliadau: Gard P & I a’r Shipowners’ Club, Cofrestr Lloyd, Marsh, Eastern Mediterranean Maritime Ltd, Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Ports, BIMCO, Swyddfa Hydrograffig y DU, Safe Marine, Holland & Knight LLP a Phrifysgol Efrog.

Darparwyd y platfformau gorau yn y digwyddiad i drafod canfyddiadau cychwynnol IISTL. Gellir dweud bod y drafodaeth yn un fywiog, yn llawn gwybodaeth ac yn arbennig o fuddiol er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.

Rhannu'r stori