Sefydlwyd Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol Abertawe (IISTL) yn 2000 i hyrwyddo ymchwil ac addysgu o'r safon uchaf ym meysydd cyfraith morgludiant a masnach ryngwladol. 

Ar ddechrau pandemig Covid, gwnaed penderfyniad i gymryd y cyfle i gysylltu â sefydliadau academaidd, ymarferwyr ac eraill sy'n gweithio yn y sector morgludiant a masnach drwy drefnu gweminarau a chymryd rhan mewn digwyddiadau addawol ar-lein.

I'r perwyl hwn, mae newydd gyflwyno'r Weminar ar Gyfraith Forwrol ar y cyd â Phrifysgol Forwrol Ranbarthol Accra;  menter ar y cyd sy'n datblygu'n gyflym a gefnogir gan lywodraethau Ghana, Camerŵn, Liberia, y Gambia a Sierra Leone.

Cynhaliwyd y digwyddiad dan arweiniad Gweinidog Trafnidiaeth Camerŵn, sydd hefyd yn Ganghellor y Brifysgol. Denwyd dros 70 o gyfranogwyr, yn bennaf o Affrica ond hefyd o Ffrainc.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i ymwneud ag academyddion megis yr Athro Ndende Martin (Cyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Morgludiant a Chefnforol ym Mhrifysgol Nantes), ymarferwyr (Mfon Ekong Usoro, Partner Rheoli, Paul Usoro & Co, Lagos), a llunwyr polisi gan gynnwys Dr Gaston Kenfack, Cyfarwyddwr Deddfwriaeth yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder Yaounde, yr Athro Gérard-Marie Messina, Ymgynghorydd Technegol i'r Gweinidog Trafnidiaeth. Roedd llawer o gynrychiolwyr o Gamerŵn a gwledydd cyfagos hefyd yn bresennol.

Cyflwynodd yr Athrawon Baughen, Soyer a Tettenborn bapurau ar agweddau allweddol ar gyfraith forgludiant gan gynnwys effaith bosib COVID ar gontractau cludo, a'r gwahaniaethau rhwng arestio llongau mewn cyfraith gyffredin ac awdurdodaeth cyfraith sifil.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai'r Athro Soyer:

“Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych gyda chyfle gwych i ddyfnhau ein cysylltiadau â ffrindiau a chydweithwyr o Orllewin Affrica. Mae bob amser yn hynod wobrwyol, a hefyd yn bwysig iawn, i glywed safbwyntiau pobl allweddol eraill sy'n gweithredu mewn rhannau gwahanol o’r byd. Mae morgludiant, wedi'r cyfan, yn fusnes byd-eang, ac ni ddylem byth anghofio hynny. Rydym yn bwriadu adeiladu a dyfnhau ein cydweithrediad gyda'r Brifysgol Forwrol Ryngwladol a rhanddeiliaid eraill o Orllewin Affrica cyn gynted â phosib." 

Rhannu'r stori