Mae'r argraffiad newydd o’r clasur, Marsden & Gault on Collisions at Sea a argraffwyd gan Sweet & Maxwell newydd gael ei gyhoeddi, diolch i'r Athro Andrew Tettenborn o’r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) ac i John Kimbell CF Quadrant Chambers.

Dathlwyd y lansiad ar 9 Mehefin mewn digwyddiad rhithwir ar y cyd a drefnwyd gan y ddau sefydliad, gyda thros hanner cant o gyfreithwyr morgludiant a chynrychiolwyr yn bresennol o bell.

Cafwyd areithiau gan Syr Nigel Teare (Barnwr y Morlys tan yn ddiweddar) a'r Athro Soyer (Cyfarwyddwr yr IISTL) ac yna cafwyd sesiwn holi ac ateb ddiddorol, cynnig llwncdestun i'r llyfr, a sgyrsiau bywiog eraill mewn grwpiau rhithwir.

Estynnwyd llongyfarchiadau gwresog i'r ddau olygydd ar gyflwyno fersiwn gyfoes a strwythuredig o'r clasur sy'n 141 o flynyddoedd oed, sy'n parhau i fod yn destun blaenllaw y dyfynnir ohono’n aml ym myd cyfraith gyffredin. Dyma'r ail lyfr a gyhoeddwyd gan aelod o'r IISTL yn 2021 gyda 2 arall ar y gweill.

Rhannu'r stori