Mae Ince yn un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf blaenllaw’r byd ac mae ganddo bartneriaeth hirsefydledig â Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (Prifysgol Abertawe).

Mae Ince yn un o gwmnïau cyfreithiol mwyaf blaenllaw’r byd ac mae ganddo bartneriaeth hirsefydledig â Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (Prifysgol Abertawe).

Dros ddegawd yn ôl, sefydlodd Ince wobr sy'n gwobrwyo'r myfyriwr LLM gorau yn Abertawe.  Eleni, enillydd y wobr hon oedd Filippos Mentis, a gasglodd ei wobr gan Uwch-bartner Byd-eang Ince, Mr Julian Clark, yn swyddfeydd Ince yn Llundain.

Yn wreiddiol o Wlad Groeg, astudiodd Filippos Gyfraith y Morlys, Siartrau Llogi Llongau: Cyfraith ac Ymarfer, Cludo Nwyddau ar y Môr, Yswiriant Tir, Awyr a Môr, fel rhan o'i radd LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol gan ennill gradd ragoriaeth ym mhob un o'i fodiwlau a addysgir. Yn y seremoni, roedd Filippos yng nghwmni’r Athro Cysylltiol Leloudas a Dr Tabetha-Kurtz Shefford, sy'n aelodau elît o dîm addysgu LLM Abertawe.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, meddai Dr Kurtz-Shefford, Dirprwy Gyfarwyddwr Graddau LLM Morgludiant a Masnach :

“Mae'r wobr yn gwbl haeddiannol, a does dim dwywaith y bydd gan Filippos ddyfodol disglair iawn o'i flaen. Fel bob amser, rydym yn falch o gael cwmni cyfreithiol nodedig a blaengar yn un o'n cefnogwyr".

Rhannu'r stori