Enwyd Dr Nnenna Ifeanyi-Ajufo yn “Athro'r Flwyddyn Ysgol y Gyfraith 2021” yng Ngwobrau Addysgu Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT).

Bob blwyddyn, mae'r Brifysgol yn cyhoeddi enillwyr yn seiliedig ar ragoriaeth eu haddysgu a'r cyfraniadau maent wedi'u gwneud. Mae Dr Ifeanyi-Ajufo yn rhan o addysgu cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn Ysgol y Gyfraith, gan gynnwys Eiddo Deallusol, Arloesi a'r Gyfraith, Cyfraith Eiddo Deallusol Ryngwladol a Hawliau Digidol.

Yn siarad ar ôl casglu ei gwobr, meddai Dr Ifeanyi-Ajufo:

"Rwy'n angerddol am lwyddiant myfyrwyr a phrofiad cyffredinol myfyrwyr wrth ddysgu. Ein nod yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe yw datblygu ein myfyrwyr mewn ffordd iddynt lwyddo a sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw'r gystadleuaeth ar ôl iddynt raddio.  Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgol a'r Brifysgol am gydnabod fy nghyfraniad i addysgu gyda'r Wobr hon".

Rhannu'r stori