Mae’r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn ganolfan ymchwil  yn Ysgol y Gyfraith a diben y sefydliad yw pontio’r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

O ganlyniad i’r pandemig byd-eang, mae’r IISTL wedi symud y mwyafrif o’i weithgareddau ar-lein, sydd wedi cynnig cyfle i gyrraedd cydweithwyr a chyfeillion ym mhedwar ban byd.

Canolbwyntiodd gweminar cynta yr IISTL yn 2021 (a gynhaliwyd ar 13eg Ionawr) ar ‘Cyfraith Fasnachol a Morwrol ar ôl Brexit’ a ddenodd dros 200 o gyfranogwyr o bob cwr o’r byd. Cymedrolwyd y digwyddiad gan Gyfarwyddwr yr IISTL (yr Athro Soyer) a bu’r Sefydliad yn ddigon ffodus i gael presenoldeb 3 chyflwynydd rhagorol;

  • Simon Croall CF (Pennaeth, Quadrant Chambers) a drafododd effaith Brexit ar anghydfodau morol a datrys anghydfodau.
  • Yr Athro Baughen (IISTL) a ymhelaethodd ar ba rannau o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd y bydd y Deyrnas Unedig yn debygol/yn annhebygol o’u cadw.
  • Yr Athro Athanasiou (Prifysgol Athens) a gyflwynodd ddadansoddiad diddorol iawn ar rôl arfaethedig Cyfraith Enghreifftiol UNCITRAL mewn methdaliad traws-ffiniol yn sgil Brexit.

Daeth y digwyddiad i ben trwy gynnal sesiwn Holi ac Ateb fywiog. Bydd cyfres gweminarau’r IISTL yn parhau trwy weminar fis nesaf (11eg Chwefror) ar ‘Technoleg Cyfriflyfr Gwasgaredig a Blocgadwyn yng Nghyfraith y Môr a Chyfraith Fasnachol’.

Rhannu'r stori