Angela Nichols yn ennill Gwobr Yswiriant Morol Kennedys

Mae Kennedys yn gwmni cyfreithiol byd-eang â 67 o swyddfeydd, cymdeithasau a chydweithrediadau ledled y byd.

Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol yn ffodus iawn, oherwydd yn 2019, cyflwynodd y cwmni “Wobr Yswiriant Morol Kennedys" newydd i fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol y Gyfraith Abertawe.

Angela Nicholas oedd enillydd y wobr eleni. Ar ôl graddio o Abertawe, cwblhaodd Angela ei LPC yn Abertawe a bu’n gweithio i gwmni yswiriant adnabyddus, Admiral, am gyfnod maith. Cyflwynwyd gwobr Angela yn swyddfeydd Kennedys yn Llundain gan Mr Michael Biltoo, a raddiodd o Abertawe hefyd.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dyma a ddywedodd Angela: 

"Roedd hi'n anrhydedd enfawr derbyn gwobr gan gwmni mor nodedig, ac roedd hi'n gyfle gwych i ymweld a siarad ag arbenigwyr mewn maes mor gyffrous o'r gyfraith. Mae cymorth cwmnïau cyfraith â pharch mawr atynt yn amlygu gwerth gradd LLM o Abertawe".

Aeth yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr Cyfraith Morgludiant a Masnach yn Abertawe gydag Angela i Kennedys, a chafodd ginio gweithio gyda sawl cyfreithiwr yn y cwmni i drafod cydweithio posib ar brosiectau newydd.

Rhannu'r stori