Enillydd cyntaf Gwobr Hannaford Turner mewn Cyfraith Cyllid Llongau ac Asedau Symudol Eraill yw Yuyang Sun.

Graddiodd Yuyang o Brifysgol Forwrol Shanghai ac mae wedi cael profiad gwaith gyda chwmni cyfreithiol nodedig cyn dod i Abertawe yn 2019. Yn Abertawe, roedd hi’n un o’r bobl a gyrhaeddodd rownd derfynol y Gystadleuaeth Ffug-lys Barn Masnachol a Morwrol. Dyfarnwyd tystysgrif iddi hefyd am ei pherfformiad llwyddiannus yn elfen a addysgir ei chwrs.

Sefydlwyd Gwobr Hannaford Turner yn ddiweddar â’r amcan o annog myfyrwyr LLM i ragori yn y maes hwn o’r gyfraith, ac mae’n agored i fyfyrwyr Abertawe sydd wedi cofrestru ar yr LLM mewn Cyfraith Forwrol Ryngwladol, LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol neu’r LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol.

Fel rhan o’r Wobr, bydd Yuyang yn ymgymryd ag interniaeth gyda BIMCO yn Shanghai. Dywedodd Matt Hannaford, Partner Rheoli Hannaford Turner:

Rydym yn estyn ein llongyfarchiadau i Yuyang fel enillydd haeddiannol iawn y Wobr eleni. Rydym yn hynod ddiolchgar i BIMCO am gynnig yr interniaeth i Yuyang sy’n gyfle gwych ac edrychaf ymlaen at gydweithredu llwyddiannus pellach ag Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Rhannu'r stori