Mae Mari Watkins, myfyriwr y gyfraith, o Brifysgol Abertawe, wedi curo’r gystadleuaeth ledled y wlad i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth y gyfraith.

Bu Mari, sy’n fyfyriwr y gyfraith yn ail flwyddyn ei gradd LLB, yn llwyddiannus yn erbyn myfyrwyr a hyfforddeion y gyfraith ledled y DU i gyrraedd y 10 olaf yng Ngwobr Future Legal Mind 2020 National Accident Helpline.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth am chwe blynedd ac mae enillwyr y gorffennol wedi mynd ymlaen i fod yn fargyfreithwyr ac yn gyfreithwyr llwyddiannus.

Yn ei chyflwyniad ar gyfer y gystadleuaeth, bu Mari’n canolbwyntio ar gyfraith tir, gan edrych ar ymagweddau amrywiol ledled y DU a dadlau y dylai pobl gael yr “hawl i grwydro” yn yr awyr agored heb ofn wynebu gweithredu cyfreithiol am dresmasu.

Gobaith y ferch 19 oed yw bod yn fargyfreithiwr fel y gall ddefnyddio ei llais cyfreithiol i herio materion sy’n ymwneud â chyfraith tir.

Meddai Mari: “Rwyf wrth fy modd yn cyrraedd y rownd derfynol. Rwy’n falch bod fy nhraethawd wedi’i ddewis ac rwyf hefyd yn falch y bydd mwy o bobl yn ymwybodol o’r materion sy’n ymwneud â mynediad i’r tir.”

Meddai Tom Fitzgerald, Rheolwr Gyfarwyddwr National Accident Helpline: “Mae gan Mari ddiddordeb penodol mewn cyfraith tir ac roedd hi’n amlwg i’n beirniaid ei bod hi’n angerddol iawn am ei galwedigaeth ddethol. Pob lwc iddi yn y rownd derfynol.”

Mae pob un sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Future Legal Mind wedi recordio fideo’n esbonio pam y dylai ennill. I wylio fideo Mari, a ffilmiwyd yn yr awyr agored yng nghefn gwlad, ewch i www.national-accident-helpline.co.uk/future-legal-mind.

Bydd Mari’n cael gwybod ym mis Mai pwy fydd yn ennill Future Legal Mind. Bydd yr enillydd yn derbyn £2,000 ac yn cael ei fentora gan gyfreithwyr profiadol.

 

Am ymholiadau’r wasg, cysylltwch â:

Bernie Pegg  
07702 159735            
bernie.pegg@nahl.co.uk

Hanes National Accident Helpline

National Accident Helpline yw prif ddarparwr cyngor, gwasanaethau a chymorth gydag anafiadau personol yn y DU. Gyda 25 mlynedd o brofiad, rydym wedi helpu mwy o bobl a anafwyd mewn damweiniau nag unrhyw fusnes arall o’i fath.

Nid ydym erioed wedi gwneud yr un alwad nas gofynnwyd amdani ac mae gennym radd ‘Ardderchog’ ar Trustpilot ar gyfer argymhellion gan gwsmeriaid. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.national-accident-helpline.co.uk

Rhannu'r stori