Mae Canolfan Ymchwil Seiber-Fygythiadau (CYTREC) Prifysgol Abertawe wedi’i chroesawu yn aelod sefydliadol o Rwydwaith RESOLVE, sef rhwydwaith ymchwil a leolir yn Sefydliad Heddwch yr Unol Daleithiau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag eithafiaeth dreisgar. 

Bydd CYTREC yn ymuno â’r consortiwm byd-eang o ymchwilwyr, sefydliadau ymchwil, llunwyr polisi ac ymarferwyr polisi sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 36 o sefydliadau o bob cwr o’r byd, er mwyn cefnogi cenhadaeth RESOLVE i ddatblygu ac i gyflenwi ymchwil a dadansoddi ym maes eithafiaeth dreisgar o safon uchel sy’n gadarn yn fethodolegol. 

Siaradodd Cyfarwyddwr CYTREC, yr Athro Stuart Macdonald, am y cyfle i gydweithredu â RESOLVE, a sut bydd y Labordy Arloesedd Cyfreithiol newydd ym Mhrifysgol Abertawe yn cyfrannu at ei chenhadaeth gan ddweud: 

“Mae gan Rwydwaith RESOLVE enw da yn fyd-eang. Mae ei chwant am ddod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi ynghyd i gynhyrchu ymchwil â sail empirig sy’n hysbysu polisi ac ymarfer yn un y mae CYTREC yn ei gefnogi’n llawn. Rydyn ni’n gyffrous i fod yn bartner i RESOLVE dros y blynyddoedd nesaf ac i gyfrannu at ei nod o atal a mynd i’r afael ag eithafiaeth dreisgar”. 

Croesawodd Cyfarwyddwr RESOLVE, Dr Alastair Reed, aelodaeth sefydliadol newydd CYTREC:

“Mae’n bleser mawr gennym ni dderbyn CYTREC yn aelod sefydliadol o Rwydwaith RESOLVE. Mae CYTREC yn ganolfan ymchwil flaengar ym maes eithafiaeth dreisgar ar-lein. Rydyn ni’n edrych ymlaen at archwilio synergedd a chyfleoedd i gydweithredu â CYTREC ar ein prosiectau newydd niferus gan gynnwys eithafiaeth dreisgar â chymhelliant hiliol neu ethnig ac ymddieithrio a chysoni eithafiaeth dreisgar.” 

Mae CYTREC yn ganolfan ryngddisgyblaethol. Mae gan ei harbenigwyr gefndir ym maes y gyfraith, troseddeg, seicoleg, gwyddoniaeth, ac ieithyddiaeth.Mae gwaith CYTREC wedi’i gyflwyno ar draws y byd, gan gynnwys gerbron Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig, Adran Wladwriaeth yr Unol Daleithiau, Europol, a Chyrsiau Hyfforddiant Uwch NATO.

Ymhlith ei phartneriaid mae RUSI, Tech Against Terrorism a NSPCC.

I dderbyn rhagor o wybodaeth am CYTREC, ewch i’r wefan 

Rhannu'r stori