Llun o’r Athro Michael Draper a logo Ysgol y Gyfraith

Ar 14 Tachwedd, gwahoddodd Quality and Qualifications Ireland (QQI) uwch-arweinwyr o sefydliadau addysg uwch i lansiad y Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Cenedlaethol yn Nulyn, Iwerddon. Rhoddodd yr Athro Michael Draper o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn Abertawe farn arbenigol fel prif siaradwr.

Ym mis Gorffennaf, llofnododd yr Athro Michael D. Higgins fil newydd yn y gyfraith, sy’n rhoi sail statudol i erlyn yn droseddol y rhai hynny sy’n hwyluso twyllo gan ddysgwyr, sy’n hysbysebu gwasanaethau twyllo ac sy’n cyhoeddi hysbysebion ar gyfer twyllo.

Gwnaeth QQI gydnabod bod yr Athro Draper wedi rhoi cyngor o ran drafftio’r ddeddfwriaeth. I gydnabod hyn, gwnaeth yr Athro Draper longyfarch y QQI ar ei waith a’r canlyniad, a arweiniodd at y ddeddf gyntaf o’i bath yng ngorllewin Ewrop. Mae hyn yn hyrwyddo ymddygiad moesegol ym myd addysg, ac yn herio’r rhai hynny sy’n hyrwyddo twyll mewn addysg.

Dywedodd yr Athro Draper wrth siarad am y gyfraith newydd:

“Mae defnyddio ‘melinau traethawd’ ar-lein i dwyllo’n academaidd yn peri bygythiad sylweddol i uniondeb addysg uwch yn fyd-eang.

‘Bydd y deddfau gwrth-dwyll newydd a ddaeth i rym yn Iwerddon yr wythnos diwethaf, sy’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddarparu neu hysbysebu gwasanaethau twyllo neu gyhoeddi hysbysebion sy’n eu hyrwyddo nhw, yn newid y sgwrs y mae sefydliadau’n ei chael gyda’u myfyrwyr. Bydd hyn yn caniatáu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn cyflenwyr traethodau a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae prynu traethawd yn gamymddygiad academaidd; ac mae hefyd yn drosedd.

“Gobeithio y bydd y DU yn dilyn arweiniad Iwerddon yn fuan.”

Yn 2018, ysgrifennodd uwch arweinwyr ym myd addysg yn y DU i Lywodraeth y DU yn mynnu ei bod yn cyflwyno cyfraith sy’n gwahardd melinau traethawd, gan ddyfynnu’r Athro Michael Draper a’r Athro Phil Newton.

Bydd yr Athro Draper yn parhau i roi cyngor ar y mater a bydd yn cyflwyno ochr yn ochr â Dr Deidre Stritch o’r QQI yng Nghyngor Ewrop yn Prague ddiwedd y mis.

Rhannu'r stori