Mae Darlith Goffa Eileen Illtyd ar Hawliau Dynol yn ddarlith sy’n digwydd yn flynyddol. Cyflwynwyd y ddarlith eleni gan Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Cyflwynodd araith yn dwyn y teitl ‘Deddf Hawliau Dynol i Gymru?’ a oedd yn ystyried a oes angen deddfwriaeth newydd i warchod hawliau dynol yng Nghymru.

Mae gan y Chwnsler Cyffredinol gefndir yn Y Gyfraith, fel myfyriwr graddedig o Rydychen, mae wedi bod yn allweddol wrth ddiwygio’r Gyfraith yng Nghymru, gan wella mynediad ar gyfer cyfreithwyr a’r boblogaeth yn gyffredinol. 

Dechreuodd ei araith drwy sôn am hanes y gyfraith, hawliau dynol a datganoli yng Nghymru gan egluro agwedd y Cymry tuag at hawliau dynol: “Mae’n adlewyrchu ein hanes fel cenedl. Un ble mae’r gymuned wedi cael ei meithrin a’i dathlu.”

Soniodd y Chwnsler Cyffredinol wedyn am hawliau plant a Chynhadledd Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n cysylltu’n agos â gwaith yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant.

Yn hwyrach, siaradodd am sut allai llywodraeth y DU ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol gyda Bil Hawliau Prydeinig, ond dywedodd, er gwaethaf effaith posib Brexit, “Rydym yn benderfynol o sicrhau bod Cymru’n parhau i fod yn lle modern a chynhwysol i fyw a gweithio ynddi."

I orffen, soniodd y Chwnsler Cyffredinol am ddyfodol Hawliau Dynol yng Nghymru. Dywedodd bod cryfhau hawliau a dulliau diogelu yng Nghymru yn flaenoriaeth sylweddol. Soniodd bod angen sgwrs ehangach gyhoeddus er mwyn deall yn well y newidiadau sydd eu hangen, a fyddai’n galluogi Llywodraeth Cymru i gryfhau ac adeiladu ar fframweithiau hawliau sy’n bodoli eisoes.

Rhannu'r stori