Richard Williams

LLB (CYMRU) LLM (LLUNDAIN) CYFREITHIWR

Richard Williams

Mae Richard Williams yn diwtor yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe ac mae'n darlithio ar y rhaglen LLM. Bu gynt yn bartner yn y cwmni o gyfreithwyr, Ince & Co, cwmni blaenllaw yn y Ddinas sy'n arbenigo mewn cyfraith llongau a materion cysylltiedig. Yn ystod ei gyfnod fel cyfreithiwr, bu'n arbenigo mewn siartrau llogi llongau a biliau llwytho a chafodd ei gydnabod yn rheolaidd yn y wasg broffesiynol fel un o ymarferwyr mwyaf blaenllaw Llundain. Am flynyddoedd maith bu'n Bennaeth Grŵp Siarteru a Chyfraith Llongau (ar Dir) y cwmni ac mae ganddo rôl ymgynghori gyda'i hen gwmni o hyd. Yn ogystal ag ymwneud â chyfreitha mewn achosion unigol drwy gydol ei yrfa, bu hefyd yn rhan o ddatblygu polisi a dogfennaeth yn y diwydiant ar gyfer cleientiaid a chyrff rhyngwladol. Bu hefyd yn cynghori asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig a chyrff rhyngwladol eraill yn rheolaidd ar faterion sy'n effeithio ar y diwydiant cyfan ac ar lunio dogfennau safonol. Cafodd ei benodi'n ddiweddar yn aelod o Bwyllgor Cynghori Rheolau Rotterdam, a sefydlwyd gan Adran Trafnidiaeth y DU.

Mae'n cael ei wahodd yn rheolaidd i siarad mewn cynadleddau a seminarau ledled y byd. Pan oedd yn gyfreithiwr proffesiynol, roedd ganddo ddiddordeb mewn hyfforddiant proffesiynol sy'n parhau hyd heddiw.

Ar y cyd â Patrick Griggs, cyn lywydd y Comité Maritime International, ysgrifennodd Limitation of Maritime Liability, 4ydd arg (2005, LLP Ltd), Gard Guidance on Maritime Claims and Insurance, (Rodendahls, 2014) ac mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau a phenodau llyfr am agweddau amrywiol ar siartrau llogi llongau a biliau llwytho.

I weld hanes ymchwil Richard Williams, cliciwch yma