Yr Athro Andrew Tettenborn

MA, LLB (CAERGRAWNT)

Andrew Tettenborn

Ymunodd yr Athro Andrew Tettenborn ag Ysgol y Gyfraith Abertawe a'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach yn 2010 ar ôl addysgu ym mhrifysgolion Caerwysg (Athro'r Gyfraith Bracton 1996-2010), Nottingham a Chaergrawnt. Mae'r Athro Tettenborn yn ysgolhaig adnabyddus ym meysydd cyfraith gwlad ac awdurdodaethau cyfandirol. Bu ganddo rolau gwadd ym Mhrifysgol Melbourne, Prifysgol Connecticut ac yn Case Law School, Cleveland, Ohio. Mae'n awdur ac yn gyd-awdur llyfrau ar gamwedd, digollediad a chyfraith forwrol, a nifer mawr o erthyglau a phenodau ar agweddau ar gyfraith gwlad, cyfraith fasnachol ac adferiad.

Mae’r Athro Tettenborn yn gyd-olygydd Collisions at Sea gan Marsden a Clerk & Lindsell on Torts ac mae’n aelod o fwrdd golygyddol Lloyd's Maritime & Commercial Law Quarterly a’r Journal of International Maritime Law. Yn ogystal, mae'n ysgrifennu'n helaeth ar gyfraith breifat ac mae'n aelod o dîm arbenigol Clerk & Lindsell on Torts. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae'r Athro Tettenborn yn addysgu cyrsiau gwadd yng Nghaergrawnt neu Genefa, neu yn y ddau sefydliad, ac mae'n teithio'n helaeth i gynghori a chyflwyno papurau ar lawer o agweddau ar gyfraith fasnachol.

I weld hanes ymchwil yr Athro Tettenborn, cliciwch yma