Nicholas Byron Mavrias (Canada)

Nicholas Mavrias

Cwblhaodd Nicolas ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2009. Ar ôl iddo raddio, dechreuodd weithio fel Cyfreithiwr Hawliadau ac Yswiriant Gweithredol yn Tanker Pacific Management (Singapore) Pte Ltd. ac wedi hynny yn Eastern Pacific Shipping Pte Ltd. Mae bellach wedi symud i The Standard Club (Asia) Pte Ltd i weithio fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol.

Svetlana Sumina (UDA)

A head shot of Svetlana Sumina

Cwblhaodd Svetlana ei LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2018. Ar ôl graddio, dechreuodd weithio fel atwrnai cysylltiol yn y Grŵp Morgludiant yn HFW, Houston (Tecsas). Mae ei meysydd ymarfer yn canolbwyntio ar gludiant, ynni, yswiriant, ymgyfreithia a thrafodion masnachol. Rhoddodd ei phrofiad yn Abertawe gefndir rhagorol mewn damcaniaeth gyfreithiol iddi a’r sgiliau a oedd yn angenrheidiol i roi cyngor cyfreithiol o’r radd flaenaf i gleientiaid.