John Kure (Denmarc)

John Kure Denmark

Graddiodd John â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2010. Yn ystod ei radd LLM, ymgymerodd hefyd ag interniaeth yng nghlwb Standard P&I. Ers iddo raddio, mae wedi gweithio i Torm fel Dirprwy Reolwr Gwrthwynebu ac i P&I Scandinavia fel Ymdriniwr Hawliadau. Ym mis Mehefin 2015, ymunodd John â swyddfa Dutch Insurance Group /Dutch P&I Services (DUPI) yn Copenhagen fel Ymdriniwr Hawliadau ac yn fuan wedi hynny, cafodd ei ddyrchafu i swydd Rheolwr DUPI Copenhagen. Mae John yn gyfrifol am yr holl weithgareddau masnachol dyddiol ac am ymdrin â hawliadau, busnes cleientiaid yn ogystal ag aseiniadau cysylltiedig.

Hakan Tufecki (Twrci)

Headshot of student Hakan

Fel cyfreithiwr cymwys o Dwrci, mae gan Hakan dros 16 o flynyddoedd o brofiad o’r holl faterion cyfreithiol morwrol a masnachol drwy weithio i berchnogion llongau, siartrwyr, cwmnïau howldiau, broceriaid, yswirwyr, masnachwyr amaethyddol ynghyd â banciau. Mae Hakan yn siarad yn rheolaidd mewn digwyddiadau cyfraith fasnachol ryngwladol a chyfraith forwrol ryngwladol, ynghyd â darparu seminarau mewnol i’w gleientiaid. Mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau mewn cyfnodolion y gyfraith yn Nhwrci ac yn y DU. Mae Hakan yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ffederasiwn Pêl-droed Twrci.

Pablo Constenla Acuna (Sbaen)

Pablo Acuna

Cwblhaodd Pablo ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2013. Yn dilyn lleoliadau gwaith ag Ince & Co (Llundain), BlankRome LLP (Efrog Newydd) a Montgomery McCracken Walker & Rhoads LLO (Efrog Newydd), cafodd swydd fel gweithiwr paragyfreithiol (tra y bydd yn cymhwyso fel cyfreithiwr yn Lloegr) gyda Thomas Cooper, yn ymdrin â morio ar y môr ac ar y lan, yn enwedig mewn achosion ac anafiadau sy’n digwydd yn America Ladin. 

Christos Vezouvios (Cyprus)

Christos Veziuvios

Cwblhaodd Christos ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2007. Fe'i derbyniwyd i Far Cyprus yn 2008, a chaiff ei gyflogi ar hyn o bryd fel Uwch Eiriolwr yn Andreas Neocleous & Co LLC, y cwmni cyfreithiol mwyaf a mwyaf blaenllaw yn Cyprus. Mae ei brif feysydd ymarfer, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys materion eiddo na ellir ei symud, buddsoddiadau tramor yn Cyprus, agweddau treth rhyngwladol ar sefydlu preswyliaeth yn Cyprus a chyfraith gystadleuaeth. Christos hefyd yw cyd-awdur Ail Argraffiad «Neocleous Introduction to Cyprus Law», a gaiff ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref 2009, «Handbook on the Laws of Cyprus», a gyhoeddwyd gan Nomiki Vivliothiki, Athens, Rhagfyr 2008, ISBN: 978-960-272-555-9, a hefyd «The International Comparative Legal Guide to: Product Liability», Pennod Cyprus, Global Legal Group, ISBN: 978-1-904654-60-5.

Nadia Zorba (Gwlad Groeg)

Nadia Zorba

Enillodd Nadia ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2014. Ymunodd â swyddfa Hill Dickinson yn Piraeus fel Twrnai Cyfreithiol ar ôl gweithio fel cyfreithiwr mewnol i gwmnïau morio mawr yn Llundain a Gwlad Groeg. Yn ystod ei chyfnod yn hyfforddi mewn cwmni cyfreithiol rhyngwladol, cynorthwyodd mewn amrywiaeth eang o anghydfodau yn ymwneud â siarteri llogi llongau, B/L, MoA a gwaith FDD, diogelu ac indemnio a hawliadau H&M gan feithrin profiad mewn cwmnïau sy’n berchen ar longau. Mae ei phrofiad annadleuol yn cynnwys gwerthu a phrynu a phrosiectau cyllid llongau. Yn ystod ei chyfnod yn astudio yn Abertawe, cymerodd Nadia ran mewn gweithgareddau dadlau ac roedd yn rhan o dîm Abertawe a ddaeth yn ail yn y Gystadleuaeth Dadlau Cyfraith Masnachol a Morol Gyntaf (2014) a gynhaliwyd gan 7KBW.

Eleni Zitouni (Gwlad Groeg)

Eleni

Enillodd Eleni ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2006 ac ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel cyfreithiwr yn Geronymakis & Partners Law Office (P. Faliro/Gwlad Groeg). Mae gan y swyddfa gleientiaid amrywiol yng Ngwlad Groeg ac yn rhyngwladol. Mae’n gweithio yn yr Adran Forol lle y mae’n ymdrin â’r gwaith o sefydlu cwmnïau morio yng Ngwlad Groeg a thramor, gwerthu a phrynu cychod hwylio, cofrestru cychod hwylio a morgeisi ar y cychod hynny, siarteri llogi llongau, lesio, contractau adeiladu cychod hwylio a sefydlu canghennau o gwmnïau rheoli neu gwmnïau cysylltiedig tramor yng Ngwlad Groeg o dan ddarpariaethau arferol cyffredinol neu o dan gyfreithiau arbennig sy’n rhoi statws treth buddiol i’r gweithrediad.  

José Zaragosi (Sbaen)

Jose Zaragosi

Cwblhaodd José Zaragosi ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2015. Ar ôl cyflwyno ei brosiectau LLM, dechreuodd weithio fel Ymdriniwr Hawliadau yn Hispania P&I, sef y prif ohebydd yn Sbaen sy’n cynrychioli’r rhan fwyaf o glybiau diogelu ac indemnio’r Grŵp Rhyngwladol, ITIC Insurance a TT Club. Mae José yn ymdrin â phob math o achos diogelu ac indemnio, yn enwedig hawliadau sy’n ymwneud â llwythi ac anafiadau personol. Mae hefyd yn rhoi cyngor cyfreithiol i Aelodau ITIC.

Jessica Wearing Evans (DU)

Jessice Wearing Evans

Enillodd Jessica ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2008, a chwblhaodd y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn Abertawe hefyd yn ystod 2009-2010. Ymgymerodd Jessica ag interniaeth yn y Standard P&I Club yn 2010 a drefnwyd drwy ein ffair flynyddol wedi'i hanelu at fyfyrwyr LLM. Treuliodd Jessica dri mis ar interniaeth yn Ince & Co LLP yn ei swyddfa yn Shanghai lle yr helpodd roi cyngor i gleient o Tsieina ar faterion a oedd yn ymwneud â môr-ladrata, helpodd i ddrafftio llawlyfr ar delerau siarteri llogi llongau a'u goblygiadau i gleient a oedd yn berchen ar longau, a helpodd hefyd i gasglu tystiolaeth o long a fu'n rhan o wrthdrawiad. Wedyn, derbyniodd Jessica gontract hyfforddi yn swyddfa Ince & Co LLP yn Llundain, lle y bu'n ymdrin ag anghydfod ynni mawr, yn ymchwilio i gontractau cludo ac yn llunio cyflwyniad ar y contractau sydd ar gael ar gyfer cludo cyfarpar arbenigol a ddefnyddir i adeiladu prosiectau alltraeth. Bu hefyd yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â chyfreithiau'n gwrthdaro ar ran cleient a oedd yn rhan o achos cyflafareddu rhyngwladol. Ar ôl cymhwyso fel Cyfreithiwr (Cymru a Lloegr), cafodd Jessica ei chyflogi gan M Taher & Co Solicitors, cwmni cyfreithiol sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar forio, hedfan, trafnidiaeth, yswiriant a masnach ryngwladol. Wedyn, symudodd i Steamship Insurance Management Services Ltd, lle mae'n gweithio fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol (Americas).

Philippe Van Dijck (Gwlad Belg)

Phillipe Van Dijck

Enillodd Philippe Van Dijck ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2011. Diolch i'r cyfuniad o gyfraith fasnachol a morol, roedd yn meddu ar yr arbenigedd angenrheidiol i weithio yn y sector cyfreithiol morol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel cyfreithiwr yng nghwmni Ambos NBGO yng Ngwlad Belg. Mae gan y cwmni ganghennau yn y tair prif ddinas â phorthladd yng Ngwlad Belg, sef Antwerp, Ghentand a Zeebrugge ac mae'n rhoi cyngor mewn sawl achos morol cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ei brif feysydd o arbenigedd yn cynnwys arestio llongau, gwrthdrawiadau, hawliadau sy'n ymwneud â llwythi a materion morol eraill a materion eraill sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd. Mae hefyd yn aelod o sawl cymdeithas forol ac yn mynychu seminarau a chynadleddau rhyngwladol yn aml.

Ioannis Tsaplaris (Gwlad Groeg)

Ioannis Tsaplaris

Enillodd Ioannis radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2008. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi fel Dadansoddwr Ôl-osod yn Navig8 Group, cwmni morio mawr sy'n rheoli fflyd sylweddol o Danceri Cynhyrchion allan o swyddfeydd sydd wedi'u lleoli mewn mannau strategol yn Llundain, Singapôr, UDA, Dubai, Shanghai, Mumbai, Oslo ac Athens.

Eftychia Tsakou (Gwlad Groeg)

Eftychia Tsakou

Graddiodd Eftychia â gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2004. Ar ôl iddi raddio, dechreuodd weithio mewn cwmni morio yng Ngwlad Groeg, fel Ymdriniwr Yswiriant/Hawliadau Cynorthwyol i ddechrau yn yr adran swmpgludo ac wedyn fel Swyddog Yswiriant/Hawliadau yn adran tanceri'r cwmni. Yn 2011, symudodd i Columbia Ship Management Ltd. yn Cyprus lle y gweithiodd fel Gweithredwr Masnachol/Llongau Cronfa, yn gyfrifol am weithredu 10 tancer (6 sbot a 4 cronfa). Ar 1 Tachwedd 2014, ymunodd â Gearbulk UK fel Uwch Ymdriniwr Hawliadau ac ar 1 Medi 2015, fe'i dyrchafwyd i Gyfreithiwr Yswiriant/Hawliadau Gweithredol. Mae fflyd Gearbulk yn cynnwys 53 o longau sy'n eiddo i'r cwmni, 32 o longau siarter hirdymor (>10  mlynedd), ac mae'n atgyweirio rhwng 25 a 30 o longau (<1 blwyddyn) ar y farchnad sbot. Mae Eftychia yn ymdrin â'r holl achosion FD&D, gan gynnwys COA, Cytundebau Stevedore, anghydfodau CP, Bs/l ac ati ac yn goruchwylio'r holl hawliadau sy'n gysylltiedig â llwythi. Mae hefyd yn gyfrifol am adnewyddu'r holl yswiriant, ar y cyd â swyddfa'r cwmni yn Norwy, ac yn ymdrin â holl gontractau yswiriant swyddfeydd y DU.

Mardyros Tsakirian (Gwlad Groeg)

Mardyros Tsakirian

Mae Mardyros yn Gapten ac mae ganddo Radd Feistr mewn Polisi Morol. Ehangodd ei wybodaeth gyfreithiol yn y diwydiant morio drwy ennill gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2014. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi gan Eastern Mediterranean Maritime Limited yn yr adran Gweithrediadau yn yr is-adran tanceri. Mae'n gweithredu'r fflyd o danceri ac yn monitro boddhad o ran telerau ac amodau'r Siarteri Llogi Llongau. Mae hefyd yn ymdrin ag anghydfodau a all godi wrth roi'r siarteri llogi llongau ar waith. Canolbwyntiodd y gwaith ymchwil a wnaed gan Mardyros ar y cymalau stemio araf a sut roedd y cymalau hynny yn ymyrryd ag athrawiaeth dosbarthu rhesymol ac yn yr hawliadau a'r dyfeisiau twyllodrus sy'n gysylltiedig â Chyfraith Yswiriant Morol. Mae'n aelod o'r Average Adjuster Association ers 2013.

Carlo Psilopulos (Yr Eidal)

Carlo Psilopulos

Graddiodd Carlo â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2013. Ers iddo raddio, ymgymerodd â phrofiad gwaith helaeth yn y sector morio, gan weithio'n gyntaf fel cyfreithiwr/cyfreithiwr hawliadau gweithredol i BseaG ac wedyn fel Uwch Gyfreithiwr Hawliadau Gweithredol yn P.L.Ferrari & Co. S.r.l., y prif frocer diogelu ac indemnio arbenigol annibynnol. Yn Ferrari, mae Carlo yn ymdrin â materion diogelu ac indemnio ac FFD, megis pob math o hawliadau llwythi morol, anghydfodau siarteri llogi llongau, gwrthdrawiadau a niwed o ganlyniad i lygredd. Mae hefyd yn rhoi cymorth i aelodau Ferrari (Perchenogion ac Unigolion sy'n Llogi Llongau).

Georgia Patinioti (Gwlad Groeg)

Georgia Patinioti

Enillodd Georgia ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2013. Ar ôl iddi raddio, fe'i cyflogwyd fel Cynorthwy-ydd yn yr adran Gweithrediadau a Hawliadau/FDD yn Polembros Shipping Ltd. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Cyfreithiwr Cyswllt gyda Stephenson Harwood LLP, yn ymdrin yn bennaf ag achosion cyllid llongau.

Andrea Pardini (Yr Eidal)

 Andrea Pardini

Enillodd Andrea ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Ar hyn o bryd, caiff ei gyflogi gan yr European Central Bank (ECB) fel Uwch Gwnsler Cyfreithiol.

Selin Begum Ozturk (Twrci)

Selin Ozturk

Enillodd Selin ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011.  Ar ôl iddi raddio, dechreuodd weithio fel Cyfreithiwr Cyswllt yn un o'r prif gwmnïau cyfraith forol yn Nhwrci, Gur Law Firm yn Istanbul. Rhoddodd Selin gyngor i gleientiaid lleol a thramor, megis cwmnïau morio, clybiau diogelu ac indemnio, buddiannau llwythi mewn perthynas â materion morol gan gynnwys hawliadau llwythi morol, siarteri llogi llongau, yswiriant morol, anghydfodau ynghylch gwrthdrawiadau, llygredd môr, ymgyfreitha a chyflafareddu morol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny. Yn 2013, symudodd Selin i Allianz (Istanbul), un o'r prif gwmnïau yswiriant, lle y mae'n gweithio ar hyn o bryd fel cyfreithiwr.

Eske Munk (Denmarc)

Eske Munk

Dechreuodd Eske ei gwrs LLM mewn Cyfraith Forol yn Ysgol y Gyfraith Abertawe ar ôl cwblhau ei radd LLM yn Nenmarc (gan gynnwys un semester yn Athrofa Cyfraith Forol Sgandinafia yn Oslo). Ymunodd Eske â Britannia Steam Ship Insurance Association (a reolir gan Tindall Riley Ltd.) fel Rheolwr Hawliadau Cynorthwyol ym mis Hydref 2012 gan weithio i ddechrau yn Nhîm Sgandinafia ac yn ddiweddarach yn Nhîm Taiwan. Yn bennaf, rhoddodd gymorth i aelodau â materion diogelu ac indemnio a CLH. Wedyn, trosglwyddodd i swyddfa'r clwb yn Hong Kong, The Britannia Steam Ship Insurance Association (Hong Kong) Ltd, lle y mae'n gweithio ar hyn o bryd fel Rheolwr Hawliadau, yn helpu aelodau'r clwb yn Asia â materion diogelu ac indemnio ac FDD.

Despina Mourati (Gwlad Groeg)

Despina Mourati

Graddiodd Despina â gradd yn y Gyfraith o Brifysgol Abertawe a pharhaodd i astudio'r gyfraith drwy ymgymryd ag LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2006. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Ymgynghorydd Cyfreithiol Mewnol gyda chwmni olew a nwy preifat yn UAE, gan weithio ar weithgareddau E&P rhyngwladol, rhoi cyngor ar gaffael a gwaredu asedau, cytundebau gweithredu ar y cyd, cynigion dosbarthu, adeiladu a chysylltu, trefniadau cludo a materion trwyddedu.

Dechreuodd Despina ei gyrfa yn y diwydiant morio fel hyfforddai yn Piraeus Port Authority S.A. (Gwlad Groeg). Wedyn, symudodd i weithio fel ymgynghorydd cyfreithiol mewnol gyda Nortech Shipping & Salamis Shipyards S.A (Grŵp o Gwmnïau), IMS S.A (Cwmnïau sy'n Berchen ar Longau ac yn Rheoli Llongau) yng Ngwlad Groeg. Mae Despina yn arbenigo ym mhob agwedd ar faterion morol (morio ar y môr ac ar y lan) a thrwy gydol ei gyrfa, bu'n ymdrin â materion Yswiriant, Hawliadau Diogelu ac Indemnio, Arestiadau, Sefydlu Cwmnïau Alltraeth mewn nifer o awdurdodaethau, anghydfodau C/P, Cyflafareddu, Dychwelyd i'r Lan, Gwrthdrawiadau, Cyfanswm Colledion, GA, Cyfleusterau Benthyca. Ar ôl iddi gyrraedd yr UAE yn 2011, gweithiodd Despina gyda 'Cash Buyers', Prynwyr Sgrap mwyaf y byd, fel ymgynghorydd cyfreithiol mewnol.

Konstantina Morou (Gwlad Groeg)

Konstantina Morou

Enillodd Konstantina Morou ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2008. Ers iddi raddio, mae wedi gweithio fel twrnai i Blue Star Ferries, cwmni morio i deithwyr, Arista Shipping SA, cwmni morio llwythi ar y lan, GasLog SA, cwmni morio nwy ac olew ac wedi cynrychioli clybiau diogelu ac indemnio yn llwyddiannus. Mae Konstantina wedi ymdrin â negodiadau MOA, danfon llongau, siarteri llogi llongau, ymgyfreitha diogelu ac indemnio, gan gynnwys hawliadau gan deithwyr, hawliadau gan aelodau'r criw, hawliadau am lwythi, materion yswiriant morol. Ar hyn o bryd, caiff ei chyflogi gan Aegean Marine Petroleum Network Inc., cwmni morio olew NYSE. Mae Konstantina yn Gyfryngwr Achrededig ar gyfer materion cyfreithiol rhyngwladol a gymhwysir gan Weinyddiaeth Cyfiawnder Gwlad Groeg a Phrifysgol Pepperdine, UDA.

Theodora Kostara (Gwlad Groeg)

Theodora Kostara

Cwblhaodd Theodora ei gradd LLM mewn Cyfraith Fasnach Ryngwladol yn 2015. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Ymdriniwr Hawliadau yn Shipserve (International) Inc. yn Piraeus, cwmni sy'n gweithredu fel Gohebydd ar ran nifer o Glybiau Grŵp Rhyngwladol, yn ogystal ag Yswirwyr Diogelu ac Indemnio eraill, gan roi cymorth a chyngor arbenigol uniongyrchol am bob achos diogelu ac indemnio posibl ledled Gwlad Groeg a'r ardal gyfagos. Mae Theodora yn ymdrin ag amrywiaeth o hawliadau (llwythi/anaf personol ac eraill), gan ddefnyddio'r wybodaeth a feithrinwyd ganddi yn Abertawe bob dydd.

Maria Kostala (Gwlad Groeg)

Maria Kostala

Enillodd Maria radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2014. Ar ôl iddi raddio, dechreuodd weithio fel cyfreithiwr yn Adrannau Cyfreithiol a Masnachol MARITECH, cwmni sy'n darparu gwasanaethau a thechnolegau i osodiadau tanfor a gwaith morol, gan gynnwys Gosodiadau a Chloddio Tanfor Gwarchodol, Arolygu a Mapio Gwely'r Môr, Cymorth Alltraeth a Gwasanaethau Plymio, Arolygu - Cynnal a Chadw ac Atgyweirio, Treillio a Chloddio Gwely'r Môr, Gosodiadau HDD a Pheirianneg a Chynhyrchion wedi'u Gweithgynhyrchu ar gyfer gwaith tanfor. Roedd y cwrs morol craidd a ddewiswyd ganddi (morlys, cludo, siarteri llogi llongau, yswiriant morol) yn ddefnyddiol iawn ar gyfer yr ymarfer y mae bellach yn rhan ohono. Mae dyletswyddau Maria yn cynnwys ymdrin â materion cyfreithiol sy'n deillio o filiau llwythi ac yswiriant llogi llongau, drafftio/adolygu contractau, gwerthu a phrynu, yn ogystal â chyfathrebu â chwsmeriaid a gweithredwyr ledled y byd. Ym mis Ionawr 2016, ymunodd Maria ag Adran Hawliadau Fender S.A., Cwmni Broceru Yswiriant Arbenigol sy'n darparu gwasanaethau cyfryngu ac ymgynghori i'r Gymuned Forio mewn perthynas â phob agwedd sy'n gysylltiedig ag Yswiriant Morol.

Ivaylo Kosev (Bwlgaria)

Ivaylo Kosev

Cwblhaodd Ivalyo ei radd LLM mewn Cyfraith Forol yn 2012. Hyd yn oed cyn cwblhau ei radd LLM, roedd Ivalyo wedi dod o hyd i swydd yn adran tanceri hydrin Maersk Tankers fel hyfforddai llogi llongau. Roedd ei ddyletswyddau yn cynnwys llogi eu llongau bob dydd, ymchwilio i gyfraddau llwythi'r farchnad a'u gwerthuso ac ymdrin ag amrywiol bartïon, er enghraifft unigolion sy'n llogi llongau a broceriaid llongau, a negodi telerau effeithiol ar gyfer siarteri llogi llongau. Wedyn, dychwelodd Ivalyo i'r DU i weithio yn Adran Llogi Llongau Union Maritime Ltd., perchennog a gweithredwr tanceri cemegol yn y DU. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel Brocer Tanceri CPP yn POTEN & PARTNERS, cwmni sy'n arbenigo mewn broceru llongau a nwyddau, ymchwil, deallusrwydd busnes, ymgynghori a gwasanaethau ymgynghorol masnachol yn y diwydiant ynni a'r diwydiant cludo dros gefnforoedd.

Kristoffer Snaprud Johannessen (Norwy)

Kristoffer Johanessen

Ar hyn o bryd, caiff Kristoffer ei gyflogi gan Assuranceforeningen Skuld (Gjensidig) fel Uwch Gyfreithiwr Hawliadau Gweithredol. Mae Kristoffer yn rhan o'r tîm Diogelu ac Indemnio ac Amddiffyn (FD&D) yn swyddfa Skuld yn Bergen. Mae'n cymryd rhan yng ngrŵp Hawliadau Pobl y clwb, yn ogystal â darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i berchenogion llongau ac unigolion sy'n llogi llongau mewn perthynas â phob math o faterion diogelu ac indemnio ac amddiffyn ledled y byd.

Arthur Jasnault (Ffrainc)

Arthur Jasnault

Ymunodd Arthur Jasnault â'r cwrs gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol ym mis Medi 2011 ar ôl cwblhau ei gymhwyster fel Capten. Mae bellach yn gweithio yn Sector Ynni Total Trading lle mae'n gyfrifol am hawliadau gwrthwynebu ar gyfer cynhyrchion pur yn unol â chontractau masnachu a morio ar gyfer rhanbarth y Dwyrain Pell. Mae'n gyfrifol am ddrafftio a negodi cymalau â gwrthbartïon ac am gymhwyso'r cymalau hynny at yr hawliadau gwrthwynebu ar lefelau annadleuol a dadleuol. Fel rhan o'i waith, mae'n dod i gysylltiad â'r holl bobl sy'n rhan o'r gadwyn fasnachu o fasnachwyr i ganolfannau olew, purfeydd neu danceri olew.

Gülşah Işık (Twrci)

Gulsah Isik

Enillodd Gülşah Işık ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Ar ôl cwblhau ei gradd LLM, treuliodd ddeufis yn y Sefydliad Morol Rhyngwladol (IMO) fel intern a chafodd gyfle hefyd i dreulio amser fel hyfforddai yng Nghwmni Cyfreithiol Ulgener yn Istanbul. Wedyn, aeth i weithio yn Adran Gyfreithiol Moore & Stephens yn Nhwrci fel ymgynghorydd cyfreithiol yn ymdrin â buddsoddiadau tramor, ymgynghoriaeth fusnes, anghydfodau cyfraith fasnachol ryngwladol. Ar hyn o bryd, caiff Gülşah ei chyflogi fel cyfreithiwr gan Marine LTD, ac ar yr un pryd, mae'n gweithio tuag at ei gradd PhD ym Mhrifysgol Yeditepe, Istanbul.

Jaime Albors (Sbaen)

Jaime Albors

Cwblhaodd Jaime ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Enillodd Wobr IISTL am brosiectau gorau’r gyfraith (dyfarnwyd ym mis Ionawr 2012). Gweithiodd fel Cyfreithiwr Cyswllt (Cymwys mewn Saesneg a Sbaeneg) yn swyddfa Clyde & Co LLP yn Llundain tan 2016, gan weithio yn Adran Masnach Forol a Rhyngwladol MIT1. Mae ei ymarfer yn cynnwys anghydfodau siarteri llogi llongau, yswiriant morol, nwyddau ac achosion ymgyfreitha ar raddfa fawr gan ganolbwyntio’n benodol ar America Ladin a Sbaen. Mae bellach wedi’i gyflogi fel Cyfreithiwr Cyswllt (Cymwys mewn Sbaeneg a Saesneg) ag Albors Galiano & Portales, cwmni cyfraith forol blaenllaw yn Sbaen. 

Jaime Soroa Garcia (Sbaen)

Jaime Albors

Enillodd Jaime ei radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2006. Ar hyn o bryd, mae Jaime yn gweithio fel Rheolwr Bartner yn Meana Green Maura SLP, y cwmni cyfraith forol hynaf yn Sbaen. Cyn dychwelyd i Sbaen, fe'i cyflogwyd yn Ninas Llundain fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol yn yr Eastern Syndicate ac i Shipowners Protection Ltd, ac fel Ymgynghorydd yn Swinnerton Moore, LLP.

Aida García de Diego (Sbaen)

Aida de Diego

Enillodd Aida radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol yn 2015. Ar ôl cwblhau ei gradd LLM, dechreuodd weithio yn Carreira Pitti PC Attorneys (Carpit), cwmni cyfreithiol yn Panama, gwlad ag awdurdodaeth dros y llynges fasnachol fwyaf yn y byd. Mae Aida yn gweithredu fel ymgynghorydd a chynghorydd ar wahanol agweddau ar gyfraith forol. Mae ei gwaith yn cynnwys mapio'r strategaeth gyfreithiol i'w dilyn ym mhob achos, drafftio pledion, gweithio ar ddarparu tystiolaeth ("darganfod"), ymchwilio a llunio cyfreitheg, rhoi cymorth mewn treialon naill ai yn y llysoedd morol cychwynnol neu yn dilyn apêl, yn ogystal â llunio ymateb cyfreithiol i unrhyw ymholiad penodol gan gleientiaid rhyngwladol y cwmni.

Neele Eiken (Yr Almaen)

Neele Eiken

Enillodd Neele radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2014. Roedd hefyd yn enillydd teilwng Gwobr Morlys HFW. Yn ystod ei chyfnod yn astudio, cymerodd ran mewn dadleuon hefyd fel aelod o dîm dadlau LLM Abertawe, a gyrhaeddodd Rownd Derfynol y Gystadleuaeth Dadlau Masnachol/Morol glodwiw a gynhaliwyd o dan awenau 7 King's Bench Walk, prif siambrau morio a masnachol Temple, ac Informa Law, y prif gwmni cyhoeddi yn y maes morol. Ar ôl iddi raddio, dechreuodd weithio yn Adran Gweithrediadau RHL Reederei Hamburger Lloyd GmbH & Co KG lle y cafodd gipolwg ymarferol o fusnes beunyddiol perchennog llongau cyn symud i Hamburg Süd fel Arbenigwr Hawliadau. Yn Hamburg Süd, mae'n gyfrifol am ymdrin â hawliau diogelu ac indemnio morol ac amlfoddol rhyngwladol a ddygir yn erbyn y cwmni cludo. Yn yr un modd, mae'n gyfrifol am oruchwylio cydweithwyr sy'n ymdrin â hawliadau yn swyddfeydd rhanbarthol y cwmni er mwyn sicrhau y caiff hawliadau eu setlo'n ddidrafferth ac mewn ffordd ffafriol. Mae Neele yn gadarn o'r farn, diolch i'w hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe, ei bod wedi meithrin gwybodaeth fanwl ddwys am Gyfraith Forol ac y bu'r astudiaethau hynny yn bendant o gymorth iddi ddechrau gyrfa lwyddiannus, gobeithio, yn y diwydiant morio.

Didem Dogan (Twrci)

Didem Dogan

Cwblhaodd Didem ei gradd LLM mewn Cyfraith Fasnach Ryngwladol yn 2013. Bellach, mae wedi'i chyflogi fel Cynghorydd Cyfreithiol / Twrnai Cyfreithiol yng Nghwmni Cyfreithiol K&P, un o'r prif gwmnïau cyfraith fasnachol yn Nhwrci. Fel rhan o'i waith, mae Didem yn rhoi cyngor i gleientiaid tramor a domestig ar fuddsoddi a chynnal busnes yn Nhwrci, ac yn cynnig gwasanaeth ymgynghori cyfreithiol i gwmnïau yn Nhwrci ar ehangu eu busnes dramor. At hynny, fel rhan o'i swydd, mae'n drafftio ac yn dilysu contractau sy'n cynnwys y canlynol, ond nad ydynt yn gyfyngedig iddo: pob math o Gontract Masnach Ryngwladol (Incoterms), contractau gwerthu, contractau dosbarthu, cyd-fentrau, contractau cyfranddeiliaid, contractau gwasanaeth, Contractau Trafnidiaeth, Cytundebau Asiantaeth ac ati.

Georgia Demetriou (Cyprus)

Georgia Demetriou

Yn fuan wedi iddi gwblhau ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2009, ymgymerodd Georgia ac interniaeth (cam) yn DGMOVE y Comisiwn Ewropeaidd, Polisi Trafnidiaeth Morol a Phorthladdoedd, y Farchnad Fewnol a Dyfrffyrdd Mewndirol, gan ganolbwyntio ar faterion ac amcanion polisi trafnidiaeth forol Ewropeaidd. Wedyn, dychwelodd i Cyprus lle y gweithiodd am gyfnod fel Swyddog Cyfreithiol i Undeb Perchenogion Llongau Cyprus ac fel Eiriolwr yn Montanios & Montanios LLC. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio fel cyfreithiwr yn OSM Maritime Group, ac mae'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyngor cyfreithiol, yn ogystal â sicrhau y caiff risgiau cyfreithiol a chytundebol eu rheoli'n effeithiol.

Marie-Eve Delpech (Ffrainc)

Marie Eve Delpech

Graddiodd Marie-Eve â gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol a Morol Ryngwladol yn 2007. Wedyn, gweithiodd fel Cyfreithiwr Cyswllt (Avocat a la Cour) yn DLA Piper. Roedd ei hymarfer yn canolbwyntio ar faterion a oedd yn ymwneud â chorfforaethau yn Luxembourg, megis corffori, diddymu, mudo, caffael cwmnïau, ailstrwythuro grwpiau mewn perthynas â phob math o gwmnïau (S.A., S.à r.l., S.C.A....), cyhoeddi offerynnau ariannol yn y diwydiant ecwiti preifat, gwerthu eiddo a chronfeydd a llywodraethu corfforaethol. Yn 2014, symudodd i Baker & McKenzie, lle y mae'n gweithio ar hyn o bryd fel Cyfreithiwr Cyswllt (Avocat a la Cour).

Bruno Bartel (Yr Almaen)

Bruno Bartel

Graddiodd Bruno â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2015. Heddiw, mae'n gweithio fel Brocer Alltraeth (Siarteri Llogi Llongau/Gwerthu a Phrynu) yn Global Renewables Shipbrokers, y cwmni broceru llongau annibynnol cyntaf yn benodol ar gyfer y diwydiant adnewyddadwy alltraeth ac yn arbenigo mewn tunelli alltraeth, yn llunio siarteri llogi llongau ac yn gwerthu a phrynu yn ogystal â darparu cyfarpar. Mae ei rôl yn cynnwys broceru, drafftio a negodi contractau alltraeth er mwyn diwallu anghenion penodol prosiectau ffermydd gwynt alltraeth o'r cam adeiladu cychwynnol hyd at ddiwedd y cyfnod gweithredu a chynnal a chadw. Mae hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn contractau adeiladau newydd/gwerthiannau a phryniannau ail law ar gyfer prosiectau yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Eleni Baxivanou (Gwlad Groeg)

Eleni

Graddiodd Eleni â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2013. Enillodd Wobr IISTL am y traethodau hir gorau (dyfarnwyd ym mis Ionawr 2014). Mae’n gweithio fel Cyfreithiwr Cyswllt yng Nghwmni Cyfreithiol Daniolos, cwmni o Wlad Groeg sy’n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a morol. Mae Eleni yn arbenigo mewn trafodion cyllid morio, yn bennaf mewn paratoi a negodi cytundebau benthyg a dogfennau cyllid eraill. Mae hefyd yn cynrychioli cwmnïau morol wrth iddynt gaffael a gwerthu adeiladau newydd a llongau ail law.

Ioannis Batis (Gwlad Groeg)

Ioannis Batis

Enillodd Ioannis radd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2014. Yn fuan wedi iddo raddio, dechreuodd weithio fel Dadansoddwr Hawliadau yn Trafilgura, cwmni masnachu nwyddau a logisteg blaenllaw.

Michele Autuori (Yr Eidal)

Michele Autuori

Enillodd Michele ei radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol yn 2010. Enillodd Michele Wobr IISTL am Brosiectau Gorau’r Gyfraith (dyfarnwyd ym mis Ionawr 2010). Ar hyn o bryd, mae’n Gyfreithiwr Cyswllt yn Watson, Farley & Williams (cangen Rhufain) yn yr adran Cyllid Morio. Mae meysydd ymarfer Michele yn canolbwyntio ar gytundebau benthyg, pecynnau gwarannau, ailstrwythuro ac ansolfedd, gwerthu a phrynu llongau. Mae ei brofiad gwaith hefyd yn cynnwys ymdrin ag anghydfodau a hawliadau sy’n ymwneud â phob math o siarteri llogi llongau a biliau llwytho yn ogystal ag anghydfodau ynghylch polisïau yswiriant ac arestio llongau.

Sergejs Anzinovskis (Latvia)

Sergejs

Graddiodd Sergejs â gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2013. Ar ôl graddio, dechreuodd weithio fel Cynghorydd Cyfreithiol i Olymp Invest Ltd, cwmni masnach ryngwladol. Fel rhan o’i swydd, roedd yn ofynnol iddo negodi, drafftio a dilysu contractau rhyngwladol, rheoli contractau ar gyfer y sector logisteg, ymdrin â hawliadau cytundebol a hawliadau dogfennol eraill, yn ogystal â chytundebau cyfrinachedd. Wedyn symudodd i Cabot Corporation, lle gweithiodd fel Arbenigwr Trafnidiaeth. Yn Cabot, mae Sergejs yn trefnu trafnidiaeth gyda chludwyr a chleientiaid ac yn sicrhau bod caniatâd tollau wedi’i roi i nwyddau o’r UD a Chanada sy’n dod i mewn i ardal yr UE. Mae hefyd yn ymwneud â datrys anghydfodau sy’n deillio o ddifrod i lwythi ac achosion cyffredinol o fynd yn groes i gontractau cludo. Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Cyflenwyr yn Atea Global Services Ltd.

Christina Tsouni (Gwlad Groeg)

Christina Tsoun Greece

Yn fuan ar ôl iddi raddio, ymunodd Christina â chlwb diogelu ac indemnio De Lloegr fel Ymdriniwr Hawliadau, lle yr ymdriniodd ag amrywiol achosion diogelu ac indemnio yn ogystal â hawliadau Cyfreithiol ac Amddiffyn ledled y byd. Wedyn, symudodd i glwb diogelu ac indemnio Gard lle y mae'n gweithio ar hyn o bryd fel Cyfreithiwr Hawliadau Gweithredol, yn ymdrin â hawliadau pobl yn bennaf.

Elizaveta Yurina (Rwsia)

 Elizaveta Yurina

Cwblhaodd Elizaveta ei gradd LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn 2011. Wedyn, cafodd brofiad gwaith yn y DU (Marsh, Oakeshott Insurance, Xchanging) ac UDA (Montgomery McCracken Walker & Rhoads, LLP-Efrog Newydd), cyn dychwelyd i Moscow i weithio i Gwmnïau Marsh & McLennan fel Ymdriniwr Hawliadau Morol. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys cydgysylltu â chleientiaid, addaswyr, arolygwyr a/neu gyfreithwyr a’u cynghori am weithdrefnau ar gyfer hawliadau a negodi setliadau ar gyfer hawliadau gydag yswirwyr a’u cynghorwyr, gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb.