Abaty Singleton

Mae Prifysgol Abertawe yn gweithredu o fewn fframwaith cyfansoddiadol a sefydlwyd gan ei Siarter a’i Statudau.                                         


Mae’r Brifysgol yn gorfforaeth annibynnol y daw ei statws cyfreithiol o Siarter Frenhinol a gymeradwywyd yn wreiddiol ym 1920, gan gymeradwyo’r awdurdod i addysgu, i gynnal ymchwil ac i ddyfarnu tystysgrifau gradd a chymwysterau eraill. Mae gwrthrychau, pwerau a fframwaith llywodraethu’r Brifysgol wedi’u gosod yn y Siarter Atodol, y cymeradwywyd y diwygiadau diweddaraf iddi gan y Cyfrin Gyngor yn 2007 a’i Statudau ategol. Mae'r Statudau yn pennu nifer o reolau lefel uchel sy'n cefnogi'r Stiarter ac mae'r rhain, yn eu tro, yn cael eu cefnogi gan Ordinhadau.

Mae pwyllgorau’r Brifysgol yn elfen graidd o strwythur Lywodraethu a phrosesau gwneud penderfyniadau’r Brifysgol. Yn ogystal â sicrhau y caiff penderfyniadau eu hystyried yn gyflawn a’u cofnodi’n ffurfiol, cânt eu defnyddio at ddibenion ymgynghori a chyfathrebu yn fewnol ac yn allanol. Mae’r Cyngor, y Senedd, a’r Uwch-dîm Rheoli oll yn meddu ar bwyllgorau hirsefydlog er mwyn eu cynorthwyo wrth gyflawni eu dyletswyddau.